Mae Liz Saville Roberts yn dweud bod cynghorau sy’n cael eu harwain gan Blaid Cymru yn barod i helpu ffoaduriaid o Affganistan.
Mae Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd a Llŷr Gruffydd, llefarydd cyllid a llywodraeth leol y blaid, wedi ysgrifennu llythyr ar y cyd at Priti Patel, Ysgrifennydd Cartref San Steffan, i ofyn faint o arian sydd ar gael i awdurdodau lleol i’r perwyl hwn.
Cyhoeddodd Llywodraeth Prydain ddydd Mercher (Awst 18) y gallai hyd at 20,000 o ffoaduriaid o Affganistan gael cartref yma dros y pum mlynedd nesaf, a 5,000 yn ystod y flwyddyn gyntaf.
Ond mae Plaid Cymru wedi beirniadu’r ffigwr o 5,000 fel un “annigonol o ystyried graddfa’r argyfwng ffoaduriaid rydyn ni’n ei wynebu”, ac yn galw am gynnig digon o arian i roi cartref i gynifer o ffoaduriaid â phosib.
Daw hyn ar ôl i’r Swyddfa Gartref gyhoeddi canllaw ar gyllid ar Orffennaf 24, er ei bod hi’n dal yn aneglur a fydd rhagor o gefnogaeth na hyn ar gael yn sgil y datblygiadau diweddaraf yn Affganistan.
‘Cyfrifoldeb ymarferol a moesol’
“Mae gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig gyfrifoldeb ymarferol a moesol i bobol Affganistan,” meddai Liz Saville Roberts a Llŷr Gruffydd.
“Mae’r cap o 5,000 ar ffoaduriaid i’r Deyrnas Unedig eleni – pan fo’r perygl ar ei fwyaf – yn fympwyol ac yn annigonol o ystyried graddfa’r argyfwng ffoaduriaid rydyn ni’n ei wynebu.
“Bydd yn gywilydd os nad yw ein hymateb dyngarol yn bodloni graddfa’r her.
“Mae cymunedau ledled Cymru wedi rhoi neges glir dros y dyddiau diwethaf – rydym yn disgwyl chwarae rhan lawn wrth groesawu ffoaduriaid o Affganistan.
“Mae gan gynghorau sy’n cael eu harwain gan Blaid Cymru record falch o gefnogi ffoaduriaid ac maen nhw’n sefyll yn barod i helpu unwaith yn rhagor.
“Yn wir, mae Cymru wedi ymroi i fod yn Genedl Noddfa, ac mae cynghorau ledled Cymru’n barod i gynnig cefnogaeth a chydweithrediad.
“Mae degawd o lymder creulon wedi’i orfodi gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig a’i effaith ar Gymru wedi rhwygo’r galon allan o wasanaethau cyhoeddus.
“Mae angen adnoddau ychwanegol nawr yn fwy nag erioed.
“Nid dyma’r amser i droi ein cefn ar y sawl sydd mewn angen a’r rheiny sy’n barod i gynnig lloches.”
Maen nhw’n galw am:
- eglurder ynghylch faint o arian sydd ar gael i awdurdodau lleol yng Nghymru fel rhan o’r cynllun i gartrefu ffoaduriaid o Affganistan nawr a thros y pum mlynedd nesaf
- sicrhau bod arian ar gael i awdurdodau lleol addasu eiddo preifat i’w rhoi ar rent
- sicrhau bod y cynlluniau i gefnogi ffoaduriaid o Affganistan yn ddigonol ac yn dosturiol i’r rhai sy’n ffoi rhag cael eu herlid
- amserlen ar gyfer cartrefu ffoaduriaid o Affganistan cyn gynted â phosib.