Dylai ymgyrch am ail refferendwm annibyniaeth i’r Alban ganolbwyntio ar “berswadio, nid cwyno”, yn ôl cyn-ddirprwy arweinydd yr SNP.

Daw sylwadau Jim Sillars wrth i ddarnau o’i hunangofiant gael eu cyhoeddi yn y Sunday Times.

Yn ei gyfrol A Difference Of Opinion: My Political Journey, mae’n dadlau bod y prif weinidog Nicola Sturgeon wedi gwneud camgymeriad yn ei hymgyrch yn erbyn Brexit a allai gael effaith ar ymgyrch arall tros annibyniaeth.

Mae’n dweud bod wfftio’r canlyniad am fod y rhan fwyaf o Albanwyr eisiau aros yn Ewrop yn arwain at y perygl y gallai unoliaethwyr Prydeinig ddefnyddio’r un ddadl wrth gyfeirio at annibyniaeth i’r Alban.

Ac mae’n dweud y gallai cefnogaeth Nicola Sturgeon i ail refferendwm Brexit arwain at alwadau tebyg pe bai’r Alban yn ennill ei hannibyniaeth yn y dyfodol.

Dywed ymhellach fod angen “symudiad llwyr” yn y berthynas rhwng yr Alban a Lloegr os yw’r Alban am ddod yn annibynnol.

‘Wfftio’r Alban?

Dywed Jim Sillars fod y rhai sydd o blaid annibyniaeth yn cael eu hysgogi gan y syniad bod y Deyrnas Unedig yn “wfftio” yr Alban, er ei fod yn teimlo mai’r gwirionedd yw mai eu diystyru yn unig mae Llywodraeth San Steffan.

Fe wnaeth yr atgasedd rhwng y ddwy ochr gynyddu yn ystod yr ymgyrch gyntaf yn 2014, ac mae’n parhau hyd heddiw ymhlith rhai carfannau, ond mae Jim Sillars yn rhybuddio y gallai hynny droi pobol oddi wrth y syniad o annibyniaeth.

“Mae nifer o’r datganiadau sy’n cael eu gwneud gan weinidogion ac ASau yr SNP yn San Steffan, ynghyd â’r rheiny sy’n ysgrifennu colofnau a llythyron yn y papur newydd y National a’r negeseuon sy’n llifo allan ar y cyfryngau cymdeithasol yn sgrechian fod yr Alban yn cael ei hanwybyddu, ei sarhau a’i hamharchu,” meddai.

“Y gwir yw nad oes neb yn eistedd mewn swyddfeydd gweinidogol yn Llundain yn meddwl sut i wfftio’r Alban.

“Ar y gwaethaf, dydyn nhw yn syml ddim yn rhoi llawer o ystyriaeth i ni.

“Mae’r syniad fod ‘wfftio bwriadol ar yr Alban’ yn digwydd wedi cydio ym meddyliau Yes a’r SNP, ac mae wedi arwain at y polisi o ddatblygu’r achos tros annibyniaeth trwy greu digio a chwyno.”

‘Cipio pwerau’

Mae’n dweud bod yr agwedd fod San Steffan yn “cipio pwerau” yn enghraifft o’r fath safbwynt, a’i fod yn arwain at “bolisi twp”.

“Os yw’r ymgyrch ‘Ie’ am ennill y tro nesaf, bydd hynny ar sail perswadio – a bydd hynny’n gofyn am well dealltwriaeth ynghylch pam fod cynifer o bleidleiswyr ‘Na’ wedi cefnogi’r Undeb y tro diwethaf ac yn dal i wneud.

“Dydy unoliaethwyr ddim yn gweld San Steffan fel grym gwrth-Albanaidd drwg ac, wrth wrthod y fath honiadau, maen nhw’n dod yn rhwym i’w safbwyntiau heb dderbyn y syniad o annibyniaeth.

“Dydy unoliaethwyr yr Alban ddim yn fradychwyr yn y genedl hon ac mae awgrymu eu bod nhw neu nad ydyn nhw mor Albanaidd â phleidleiswyr yr Alban yn gamgymeriad.”