Mae pobol yn cael eu cynghori i aros yn eu cartrefi ac i gau eu drysau a’u ffenestri yn dilyn tân mawr yng Nghaerfyrddin.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i safle cwmni teiars ar Hen Ffordd yr Orsaf am oddeutu 4 o’r gloch fore heddiw (dydd Sul, Awst 22).

Aeth criwiau o Gaerfyrddin a Chydweli yno, ynghyd â thancer dŵr o’r Tymbl a phlatfform achub o’r awyr o Dreforys ar gyrion Abertawe, ac maen nhw’n defnyddio offer delweddu thermal i geisio rheoli’r tân.

Mae’r gwasanaethau brys yn dal ar y safle ac yn monitro’r sefyllfa.