Fe fydd rhaglen brofi am wrthgyrff Covid-19 yn cael ei lansio ar gyfer pobol sydd eisoes wedi cael y feirws, yn ôl Llywodraeth Prydain.
Bydd y rhaglen yn cynnig profion i filoedd o oedolion bob dydd, a’i nod yw ceisio gwella dealltwriaeth a chasglu data “hanfodol” am wrthgyrff ar ôl i bobol gael eu heintio a’u brechu.
O ddydd Mawrth (Awst 24), bydd unrhyw un dros 18 oed yn y Deyrnas Unedig yn cael optio i mewn i’r rhaglen wrth dderbyn prawf PCR.
O blith y rhai fydd yn cael canlyniad positif, bydd hyd at 8,000 o bobol yn derbyn profion gwrthgyrff nodwydd bys cartref i’w hanfon i gael eu dadansoddi.
Rhaid cael y prawf cyntaf mor fuan â phosib ar ôl cael prawf positif, a’r ail 28 diwrnod yn ddiweddarach.
Bydd y canlyniadau’n cael eu dadansoddi ym mhob un o wledydd y Deyrnas Unedig.
Yn ôl arbenigwyr, fe fydd yn helpu i ddatblygu atebion ar gyfer y rhai nad yw eu system imiwnedd yn ymateb i’r feirws ac yn cynnig mewnwelediad i effeithlonrwydd brechlynnau yn erbyn amrywiolion.
Trydydd dos?
Daw’r newyddion am wrthgyrff wrth i’r awdurdodau barhau i drafod y posibilrwydd o gynnig trydydd dos o frechlyn Covid-19 yn y misoedd i ddod.
Mae arbenigwyr eisoes yn rhybuddio y gallai’r feirws ddychwelyd, ond na ddylid rhuthro i wneud penderfyniad ynghylch brechlyn arall.
Yn ôl Sajid Javid, Ysgrifennydd Iechyd San Steffan, gallai’r awdurdodau ddechrau brechu pobol fis nesaf, er bod arbenigwyr yn rhybuddio bod angen mwy o amser i wneud penderfyniad terfynol.
Yn ôl ystadegau swyddogol, byddai 87% o oedolion ym mhob grŵp oedran yn barod i gael dos arall o frechlyn pe baen nhw’n cael cynnig.
Ac mae’r tebygolrwydd yn cynyddu gydag oedran hefyd, gyda 96% o bobol dros 70 oed yn barod i gael dos arall, ond mae’r ffigwr yn gostwng i 78% ymhlith pobol 16-29 oed.