Mae Syr Keir Starmer yn galw ar y Blaid Lafur i foderneiddio.

Yn ôl yr arweinydd, mae ennill etholiadau’n allweddol os yw hi am fod yn “blaid y 10 neu 20 mlynedd nesaf”.

Daw ei sylwadau ar drothwy cynhadledd flynyddol y blaid, wrth iddo bwysleisio mai dod yn blaid lywodraeth yw prif nod y blaid.

“Er mwyn ennill yr etholiad hwnnw, mae’n rhaid i ni ennill y dyfodol,” meddai mewn erthygl yn The Observer.

“Rhaid i ni foderneiddio a rhaid i ni fod yn blaid y 10 neu 20 mlyendd nesaf, ac nid yn blaid sydd yn syml yn edrych yn ôl ar y deng mlynedd diwethaf ac yn dweud: ‘Gallech chi fod wedi cael rhywbeth arall pe baech chi wedi pleidleisio dros Lafur’.”

Mae e eisoes wedi cadarnhau ei fod e’n bwriadu lansio ymgais arall i aros yn arweinydd er mwyn profi bod Llafur yn opsiwn credadwy yn yr etholiad nesaf.

Rhybuddiodd mewn erthygl yn y Financial Times ar Awst 6 fod rhaid i’r blaid ddatrys “anghydfodau mewnol niweidiol”.

Mae rhai ar adain chwith y blaid wedi bod yn amau ei sgiliau fel arweinydd ers iddo olynu Jeremy Corbyn fis Ebrill y llynedd, ac mae dadleuon mewnol yn aml yn cael y bai am dynnu sylw’r blaid oddi ar y nod o fod yn wrthblaid gref.

Bydd cynhadledd flynyddol Llafur yn cael ei chynnal yn Brighton o Fedi 25-29.