Mae o leiaf wyth o bobol wedi’u lladd ar ôl i Gorwynt Grace daro arfordir Mecsico.
Fe darodd yr arfordir ddoe (dydd Sadwrn, Awst 21), cyn symud ar hyd y wlad wrth iddo daro am yr ail waith mewn deuddydd.
Roedd arwyddion fod y corwynt wedi gwanhau wrth groesi Penrhyn Yucatan ddydd Iau (Awst 19), ond fe gododd eto wrth daro Gwlff Mecsico cyn taro’r arfordir eto ddydd Gwener (Awst 20).
Mae tri o bobol ar goll yn dilyn tirlithriad a llifogydd, yn ôl Cuitlahuac Garcia, Llywodraethwr Veracruz.
Collodd 330,000 o bobol eu cyflenwadau trydan am gyfnod.
Storm drofannol oedd Corwynt Grace yn y pen draw cyn gostegu’n llwyr.