Mae Llywodraeth Prydain yn galw ar yr Unol Daleithiau a’r Arlywydd Joe Biden i gadw milwyr yn Affganistan am y tro, yn dilyn marwolaeth saith o bobol ym maes awyr Kabul.

Mae trigolion y wlad yn ceisio ffoi ar ôl i’r Taliban gymryd rheolaeth o’r wlad.

Ond mae nifer wedi’u lladd wrth iddyn nhw geisio neidio ar awyrennau sy’n gadael y maes awyr.

Mae’r Arlywydd Joe Biden wedi gosod terfyn o Awst 31 i dynnu’r holl filwyr allan, ond mae Ben Wallace, Ysgrifennydd Amddiffyn Llywodraeth Prydain yn dweud na fyddai “unrhyw wlad yn gallu cael pawb allan”.

“Os yw amserlen yr Unol Daleithiau’n parhau, does gennym ni ddim amser i’w golli wrth gael y rhan fwyaf o’r bobol sy’n aros allan,” meddai mewn erthygl yn y Mail on Sunday.

“Efallai y caiff yr Americanwyr ganiatâd i aros yn hirach, ac fe fydd ganddyn nhw ein cefnogaeth lawn os ydyn nhw.”

Tony Blair yn feirniadol

Daw hyn ar ôl i Tony Blair, cyn-Brif Weinidog Llafur Prydain, feirniadu Joe Biden a’i gyhuddo o geisio tynnu allan o Affganistan “heb ddim neu fawr o ymgynghori”.

Blair oedd wrth y llyw pan aeth Prydain a’r Unol Daleithiau i mewn i’r wlad ugain mlynedd yn ôl ar ôl ymosodiadau brawychol 9/11.

Yn ôl y Sunday Times, mae’r Ysgrifennydd Tramor Dominic Raab, sydd dan y lach am fynd ar ei wyliau, yn awyddus i siarad ag Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau, Antony Blinken, i drafod ymestyn y terfyn amser i adael y wlad.

Yn dilyn adroddiadau am bobol yn cael eu lladd ym maes awyr Kabul, roedd adroddiadau pellach ynghyclh y ffordd mae Prydeinwyr a thrigolion Affganistan yn cael eu trin am gefnogi ymdrechion Prydain yn y wlad wrth i bobol geisio ffoi.

Mae Lisa Nandy, llefarydd tramor Llafur, wedi cyhoeddi llythyr mae hi wedi’i anfon at Dominic Raab ynghylch yr “argyfwng” ffoaduriaid yn Affganistan, wrth iddi geisio rhagor o gymorth iddyn nhw.

Dywed fod adroddiadau bod pobl yn cael “eu saethu, eu curo a’u treisio” wrth aros i fynd i mewn i’r maes awyr, ac mae’r Taliban yn gwrthod mynediad i un o westai Kabul.

Cyngor

Yn y cyfamser, mae Llysgenhadaeth yr Unol Daleithiau yn Affganistan yn cynghori trigolion yr Unol Daleithiau i beidio â theithio i faes awyr Kabul oherwydd “bygythiadau i ddiogelwch”.

Yn ôl Syr Laurie Bristow, Llysgennad Prydain yn Affganistan, dyma’r “her ryngwladol fwyaf” y bu’n ymwneud â hi fel diplomydd.

Mae 1,000 o filwyr Prydeinig yn cynorthwyo’r ymdrechion, gyda mwy na 4,000 o bobol wedi’u symud o’r wlad ers Awst 13.