Mae Efrog Newydd a rhai o daleithiau eraill gogledd-ddwyrain America yn paratoi ar gyfer Storm Drofannol Henri – sy’n debygol o droi’n gorwynt erbyn iddi eu cyrraedd yfory.

Mae arfordir New England yn debygol o ddioddef ymchwydd y storm a llanw uchel, gydag ofnau y gallai gwynt cryf a glaw arwain at lifogydd difrifol.

Storm drofannol yw Henri ar hyn o bryd, gyda gwyntoedd o hyd at 70 milltir yr awr, ac mae’n symud tua’r gogledd-gogledd-ddwyrain ar 12 mya. Mae disgwyl y bydd wedi datblygu cryfder corwynt pan fydd yn cyrraedd y tir ganol y pnawn yfory. Mae llygad y corwynt yn debygol o fod uwchben Long Island, Efrog Newydd neu dalaith Connecticut.

Y tro diwethaf i Efrog Newydd gael ei tharo’n uniongyrchol gan gorwynt oedd pan wnaeth Superstorm Sandy greu difrod mawr yn 2012.

Mae disgwyl y bydd y corwynt yn effeithio ar ran helaeth o ogledd-ddwyrain y wlad, yn ymestyn at Albany, Efrog Newydd a thua’r dwyrain i Cape Cod, lle mae degau o filoedd o ymwelwyr ar wyliau.

Mae llywodraethwr Massachussets, Charlie Baker, yn pwyso ar ymwelwyr i adael Cape Cod, ac ar i bobl sy’n bwriadu mynd yno i ohirio eu cynlluniau. “Does arnom ni ddim eisiau i bobl gael eu dal mewn traffig ar bontydd Cape Cod pan fo’r storm yn ei hanterth ddydd Sul,” meddai.