Mae mwy na 250 o bobl wedi cael eu harestio mewn protestiadau yn erbyn cyfyngiadau coronafeirws yn Awstralia, gyda llawer yn wynebu dirwyon am anufuddhau gorchmynion iechyd.
Cafodd o leiaf saith o blismyn eu trin am anafiadau ar ôl helyntion yn rhai o’r protestiadau mewn dinasoedd ledled y wlad.
Roedd y brotest fwyaf a mwyaf treisgar yn Melbourne.
Mae Sydney wedi bod mewn cyfnod clo ers dau mis, a Melbourne a’r brifddinas Canberra ers yn gynharach y mis yma.
O dan reolau’r cyfnodau clo, mae pobl yn cael eu cyfyngu i raddau helaeth i’w cartrefi.
Mae’r protestwyr yn galw am ddiweddu’r cyfnodau clo, ond dywed yr awdurdodau eu bod yn angenrheidiol er mwyn rhwystro lledaeniad y feirws ac achub bywydau.
Yn Melbourne, bu tyrfa o tua 4,000 o brotestwyr, y mwyafrif heb fasgiau, yn tanio fflêrs, yn gweiddi a chwarae cerddoriaeth uchel. Fe wnaeth heddlu talaith Victoria arestio 218 o brotestwyr a chyflwyno mwy na 200 o ddirwyon gwerth tua £3,000 yr un. Aed â chwech o blismyn y dalaith i’r ysbyty ac mae tri o bobl yn dal yn y ddalfa ar amheuaeth o ymosod ar blismyn.
Cafodd plismon ei anafu yn New South Wales hefyd, lle cafodd 47 o bobl eu harestio, a 260 eu dirwyo mewn protestiadau ledled y dalaith.
Daeth mwy na 2,000 o bobl ynghyd i brotest yn Brisbane yn ogystal, ond dywed heddlu talaith Queensland na wnaethon nhw arestio neb.