Mae Llywodraeth Prydain wedi cyhoeddi cynlluniau i dynhau’r rheolau ar fewnforio cŵn.

Mae’r cynlluniau’n cynnwys codi’r isafswm oedran y gellir mewnforio cŵn bach o 15 wythnos i chwe mis, a gwahardd mewnforio cŵn â’u cynffonnau wedi eu torri neu eu clustiau wedi eu byrhau.

Byddai gwaharddiad ar fewnforio geist beichiog sy’n agos at roi genedigaeth hefyd.

Mae’r Llywodraeth wedi cychwyn ymgynghori ar y cynlluniau hyn, sydd eisoes wedi eu croesawu gan yr RSPCA ac elusennau eraill sy’n ymwneud â lles anifeiliaid.

Cafodd 66,000 o gŵn eu mewnforio’n fasnachol i Brydain y llynedd, ond mae tystiolaeth yn dangos cynnydd diweddar mewn anifeiliaid sydd wedi eu mewnforio o dan amodau creulon a hefyd mewn smyglo.

Cododd y nifer o gŵn bach a gafodd eu darganfod fel rhai nad oedd yn cydymffurfio â rheolau mewnforio anifeiliaid anwes o 324 yn 2019 i 843 yn 2020.

Nod codi isafswm oedran y cŵn bach y gellir eu mewnforio yw sicrhau nad ydynt nhw’n cael eu gwahanu’n rhy gynnar oddi wrth eu mamau.

“Mae smyglo cŵn bach yn fasnach ffiaidd ac rydym yn benderfynol o fynd i’r afael â hi,” meddai’r Arglwydd Goldsmith, y Gweinidog Lles Anifeiliaid.

“Bydd codi isafswm oed y cŵn bach yn helpu amddiffyn miloedd o anifeiliaid sy’n dod i’r wlad bob blwyddyn ac yn rhwystro troseddwyr sy’n ceisio gwneud elw o’r cynnydd mewn galw am anifeiliaid anwes.”