Mae’r sylw byd-eang mae clwb pêl-droed y ddinas wedi’i gael dros y misoedd diwethaf yn sicr o hybu cais Wrecsam i ennill teitl Dinas Diwylliant y Deyrnas Unedig 2025.
Dyna yw barn arweinydd y cyngor, Mark Pritchard, sy’n ffyddiog y gallai pêl-droed, ynghyd â threftadaeth diwylliannol yr ardal, fod yn rhan allweddol o apêl Wrecsam yn y gystadleuaeth.
“Mae’r datblygiadau cyffrous yn y Cae Ras a chlwb pêl-droed Wrecsam yn destun balchder i bawb ohonom,” meddai.
“Y Cae Ras yw stadiwm ryngwladol fwyaf y byd sy’n dal i gynnal gemau rhyngwladol, a chlwb pêl-droed Wrecsam yw’r trydydd clwb hynaf yn y byd.
“Mae’r clwb, y cefnogwyr a’r perchnogion newydd yn lledaenu enw Wrecsam ledled y byd, gan ddenu cynulleidfa newydd ryngwladol i’r clwb ac i’r dref.”
Mae’r clwb wedi cael sylw byd-eang ers i’r ddau o sêr Hollywood, Ryan Reynolds a Rob McElhenney, ei brynu y llynedd.
Daeth sylw pellach i’r dref yr wythnos yma wrth i arwydd anferth o enw’r dref gael ei godi ar hen dip glofa Bersham Bank, ger Rhostyllen.
Mae Mark Pritchard yn pwysleisio treftadaeth ddiwydiannol yr ardal yn ogystal.
“Mae gennym filltiroedd o Safle Treftadaeth Byd Unesco ar hyd Traphont a Chamlas Pontcysyllte yn ogystal â dau eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a safleoedd o harddwch naturiol eithriadol,” meddai.
“Mae’r atyniadau hyn, yn ogystal â busnesau lleol arloesol yn denu ymwelwyr o bell ac agos.
“Mae’r iaith a’r diwylliant Cymraeg yn rhan o wead Wrecsam – o’n treftadaeth gynhyrchu a mwyngloddio i’n parc busnes modern a llewyrchus sy’n cynnwys gwneuthurwr brechiadau Covid.”
Mae Wrecsam yn un o bump o leoedd yng Nghymru i wneud cais Dinas Diwylliant, gyda rhanbarthau a grwpiau o drefi hefyd yn cael ei hannog i geisio. Y lleoedd eraill yng Nghymru yw Bangor/gogledd-orllewin Cymru, siroedd Conwy a Phowys, a dinas Casnewydd. Maen nhw ymhlith 20 o ymgeiswyr ledled Prydain, a bydd rhestr fer yn cael ei chyhoeddi o fewn yr wythnosau nesaf.