Mae’r dyn a gafwyd yn euog o lofruddiaethau erchyll Clydach dros 20 mlynedd yn ôl wedi marw yn y carchar.

Roedd David Morris, 59 oed, wedi ei garcharu am 32 mlynedd am lofruddio tair cenhedlaeth o’r un teulu ym Mehefin 1999.

Fe fu farw Mandy Power, 34, ei mam, Doris Dawson, 80, a’i merched Katie, 10 ac Emily, 8, yn eu cartref yn yr ymosodiad. Roedden nhw wedi cael eu curo i farwolaeth cyn i’w ty gael ei roi ar dân.

Cadarnhaodd llefarydd ar ran y Gwasanaeth Carchardai i David Morris farw yng ngharchar Long Martin yn Swydd Gaerwrangon ddoe.

Roedd yn dal i wadu’r cyhuddiadau, a’r llynedd bu rhaglen deledu gan y BBC yn ymchwilio pa mor ddiogel oedd ei euogfarn.

Roedd y rhaglen yn cynnwys cyfweliadau gyda dau dyst posibl – un a ddywedodd nad oedd erioed wedi siarad gyda’r heddlu a’r llall a oedd yn dweud iddo gysylltu â’r heddlu i ddweud beth oedd wedi’i weld, ond na wnaeth neb ei ffonio’n ôl.

Dywedodd Heddlu De Cymru fodd bynnag eu bod wedi siarad gyda’r ddau ddyn ac wedi derbyn cyngor Gwasanaeth Erlyn y Goron, a ddywedodd na chafwyd dim gwybodaeth a oedd yn tanseilio euogfarn David Morris.

Roedd wedi cael ei arestio ar ôl i gariad Mandy Power, Alison Lewis, gael ei hamau ar gam. Roedd y gyn-blismones a’i chyn-wr, Stephen, a oedd hefyd yn blismon, wedi cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth flwyddyn ar ôl y marwolaethau, ond cawsant eu rhyddhau heb gyhuddiad.

Ymchwiliad Clydach oedd yr ymchwiliad llofruddiaeth mwyaf a mwyaf cymhleth i gael ei gyflawni erioed gan heddlu yng Nghymru.