Mae Heddlu De Cymru’n apelio am wybodaeth am ddynes 28 oed o Landaf, Caerdydd, sydd ar goll.
Cafodd Bethan Futcher ei wedl ddiwethaf am 9 o’r gloch neithiwr, nos Wener.
Dywedodd llefarydd ar ran yr Heddlu eu bod nhw a’i theulu yn poeni amdani.
Caiff ei disgrifio fel 5 troedfedd o daldra, gyda gwallt golau hir. Y gred yw ei bod yn gwisgo legins glas tywydd, sandalau Dr Martan, top coch tywyll, côt las a’i bod yn cario bag ysgwydd canfas o liw hufen.
Roedd hi wedi cael ei gweld yn gynharch yn ardal Bae Caerdydd a Pharc Biwt.
“Rydym yn apelio am i unrhyw un sydd â gwybodaeth amdani gysylltu â ni ar 101, gan nodi cyfeirnod 2100293841,” meddai’r llefarydd.
“Rydym yn pwyso hefyd ar Bethan ei hun i gysylltu i gadarnhau ei bod yn ddiogel ac iach.”