Mae degau o filoedd o bobl yn Afghanistan yn disgwyl yn llawn pryder a gofid am awyrennau llu awyr America i’w cludo allan o’r wlad.
Mae’r Arlywydd Joe Biden wedi addo y bydd yn galluogi pob Americanwr, a’r holl Afghaniaid a helpodd yn y rhyfel yn erbyn y Taliban, i adael erbyn diwedd y mis.
Er hyn mae pryder cynyddol a fydd yn gallu cyflawni hyn, gydag adroddiadau a ffilmiau o anhrefn llwyr a thrais achlysurol y tu allan i faes awyr Kabul, ac Afghaniaid yn byw mewn ofn cynyddol o ddialedd y Taliban.
Mae degau o filoedd a bobl y wlad, gan gynnwys rhai a wasanaethodd fel cyfieithwyr i luoedd y gorllewin yn ceisio dianc ar ôl i’r Taliban gipio grym drwy’r wlad mewn ychydig dros wythnos.
Mae cwymp Kabul yn nodi pennod olaf rhyfel hiraf America, a gychwynnodd ar ôl ymosodiadau terfysgol Medi 11 ar Efrog Newydd yn 2001.
Mae’n ymddangos fod tua 5,700 o bobl, gan gynnwys 250 o Americanwyr, wedi cael eu hedfan allan o Kabul ddoe, gyda 6,000 o filwyr America yn gwarchod y maes awyr. Cafodd tua 2,000 o bobl y dydd eu hedfan allan dros y ddeuddydd cynt.
Mae hofrenyddion llu awyr America hefyd wedi bod yn cludo 169 o Americanwyr i’r maes awyr. Does neb yn gwybod faint o ddinasyddion America sy’n dal yn Afghanistan, ond mae amcangyfrifon y gall y nifer fod cymaint â 15,000.
Hyd yma, mae 13 o wledydd wedi cytuno i gartrefu, o leiaf dros dro, y bobl o Afghanistan sy’n lllwyddo i ddianc.