Mae Ceredigion wedi cofnodi’r lefel uchaf o achosion Covid-19 ers mis Ionawr.

Ac yn ôl y Cyngor Sir, mae yna bryder y bydd y nifer yn parhau i gynyddu dros y dyddiau a’r wythnosau nesaf.

Ar draws y sir, roedd yr achosion wedi codi i 188.5 i bob 100,000 o’r boblogaeth ar ddydd Sul, 15 Awst.

Cafodd y nifer uchaf o achosion eu cofnodi yng Ngheinewydd a Phenybryn, gyda 471.6 achos i bob 100,000 o’r boblogaeth.

Roedd rhifau uwch na’r cyfartaledd i’w gweld hefyd yn Aberteifi ac Aberporth (247.8 i bob 100,000), ac yn ne tref Aberystwyth (209.2 i bob 100,000).

Mae’r Cyngor yn atgoffa pobl i barhau i ddilyn eu canllawiau Covid-19 hyd yn oed os ydyn nhw wedi cael dau ddos o’r brechlyn, yn cynnwys cadw pellter a hunanynysu pan mae gofyn gwneud.

Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor Sir:

“Wrth i’r haf derfynu a’r hydref agosáu, bydd tymor y ffliw gyda ni cyn pen dim, sydd yn aml yn cyflwyno pwysau ychwanegol i’n gwasanaethau cyhoeddus.

“Rhaid i ni gadw mewn cof sut y gall yr hyn a wnawn effeithio ar ein ffrindiau, ein teulu, ein cymuned a’n gwasanaethau cyhoeddus nawr a nes ymlaen. Dewch i helpu ni i gadw ein sir yn ddiogel.”