Mae clwstwr o achosion o Covid-19 wedi’u cadarnhau yn ardaloedd Ceinewydd a Llanarth yng Ngheredigion.
Mae nifer o achosion wedi dod i’r amlwg, gan beri pryder yn yr ardal dros y dyddiau diwethaf.
Mae unrhyw un sydd â symptomau’n cael eu hannog i fynd am brawf, ac mae’r Tîm Rheoli Achosion yn parhau i fonitro’r sefyllfa.
Mae cyfleusterau profi ychwanegol wedi cael eu cyflwyno yn yr ardal, ac mae pobol yn cael eu cynghori i fynd am brawf os oes ganddyn nhw beswch newydd parhaus, tymheredd uchel, neu os ydyn nhw wedi colli neu wedi profi newid yn eu gallu i flasu neu arogli.
Er mwyn helpu i nodi achosion cudd o Covid-19, mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda hefyd yn annog pobol i gael prawf os oes ganddyn nhw unrhyw un o’r symptomau canlynol, a’u bod nhw’n newydd a/neu’n barhaus.
- annwyd ysgafn yr haf, gan gynnwys cur pen, trwyn yn rhedeg a dolur gwddw;
- tebyg i’r ffliw, gan gynnwys poen yn y cyhyrau, blinder eithafol, cur pen parhaus, trwyn yn rhedeg neu’n dynn, tisian parhaus, dolur gwddw a/neu grygni, prinder anadl neu wichian, cyfogi, dolur rhydd;
- teimlo’n sâl yn gyffredinol ac wedi bod mewn cysylltiad agos ag achos positif o Covid-19.
- unrhyw newid mewn symptomau neu symptomau newydd yn dilyn prawf negyddol blaenorol.
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn atgoffa pobol fod rhaid iddyn nhw hunanynysu yn syth am ddeng niwrnod os oes ganddyn nhw unrhyw un o’r symptomau uchod, a threfnu prawf PCR.
Dylai pobol barhau i olchi eu dwylo’n rheolaidd, gwisgo masg lle bo angen a chadw pellter cymdeithasol hyd yn oed os ydyn nhw wedi cael dau ddos o’r brechlyn, meddai’r Cyngor.