Mae mwy na hanner miliwn o ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd yn dal i aros am benderfyniad ar eu statws sefydlog i aros yn y Deyrnas Unedig.

Daw hyn yn sgil cynnydd mewn Ceisiadau Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion tuag at ddiwedd mis Mehefin.

Ers 2019, mae disgwyl i ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd wneud cais am ganiatâd cyfreithiol i aros.

Yn dilyn Brexit, fe gollodd dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd a’u teuluoedd eu hawl awtomatig i fyw a gweithio yn y Deyrnas Unedig.

Ym mis Gorffennaf, roedd tua 569,100 o geisiadau’n parhau i fod dan ystyriaeth.

Rhybuddiodd cyfreithwyr y gall yr oedi dros yr wythnosau diwethaf olygu na all rhai dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd weithio na rhentu yn y dyfodol.

Mae’r Swyddfa Gartref yn dweud ei bod wedi defnyddio adnoddau ychwanegol i ddelio â’r cynnydd a bydd eu staff yn delio gyda phob cais o fewn pum niwrnod gwaith, os nad ydyn nhw’n geisiadau cymhleth.

Mae’r cais hwn ar gael i unrhyw un sy’n gallu profi eu bod wedi byw yn y Deyrnas Unedig ers pum mlynedd neu fwy cyn Rhagfyr 2020, a hyd yn hyn, mae 2.75m o bobol wedi eu derbyn.

Ceisiadau

Mae’r Swyddfa Gartref wedi gweld 6,015,400 o geisiadau rhwng mis Mawrth 2019 a’r dyddiad cau, sef 30 Mehefin 2021.

Ond fe ddaeth 58,200 o geisiadau eraill i mewn ar ôl y dyddiad cau.

Hyd yn hyn, Gwlad Pwyl oedd y genedl â’r nifer uchaf o geisiadau (1,091,500), wedyn Rwmania gyda 1,067,200 ac yna’r Eidal (545,600).

Mae Kevin Foster, y Gweinidog tros Faterion Mewnfudo yn San Steffan, yn dweud y bydd pob dinesydd sydd wedi ymgeisio ar ôl y dyddiad cau yn derbyn amddiffyniad dros dro hyd nes bydd eu cais wedi ei brosesu.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn dweud wrth bobol am ymgeisio os oes ganddyn nhw sail resymol dros fethu’r dyddiad cau.