Mae awyrennau’r Red Arrows yn cael eu harddangos mewn rhannau o Gymru heddiw, wrth i ymgyrchwyr eu gwrthwynebu oherwydd y gost sylweddol o’u hariannu a’u heffaith ar yr hinsawdd.
Maen nhw wedi bod yn teithio rhwng meysydd awyr Yr Awyrlu Brenhinol (RAF) yng Nghaerwysg a Shawbury cyn teithio i’r Fali yn Ynys Môn, a hynny er mwyn dathlu Diwrnodau Teuluoedd y safleoedd hynny.
Bydd miloedd o Gymry yn mwynhau gweld y mwg amryliw uwchben, ond dydy’r arddangosfeydd ddim yn cael eu gwerthfawrogi gan bawb.
‘Sbloets’
Un gymdeithas sy’n cymryd safiad cryf yn eu herbyn yw Cymdeithas y Cymod, sy’n wrthwynebwyr cydwybodol o ryfel a thrais.
Mae Jane Harries, Cydlynydd Cymdeithas y Cymod, yn nodi bod angen i bobol weld ymhellach na’r wyneb o ran yr arddangosfeydd hyn.
“Unrhyw bryd mae’r RAF yn gwneud sbloets yn enw adloniant, mae’n bwysig i bobol ystyried beth mae’r RAF yn ei wneud go iawn,” meddai wrth golwg360.
“Nid yr adloniant rydyn ni’n ei wrthwynebu, wrth gwrs.
“Mae yna awgrym eu bod nhw’n cael eu defnyddio fel rhywbeth i’w edmygu ac i ymfalchïo ynddo, heb i bobol feddwl beth maen nhw’n cynrychioli mewn gwirionedd.”
Newid hinsawdd
Wrth ystyried newid hinsawdd, mae allyriadau tanwydd o awyrennau jet yn cyfrannu’n helaeth tuag at yr argyfwng.
Cafodd Boris Johnson, prif weinidog Prydain, ei feirniadu gan ymgyrchwyr am gytuno i adael awyrennau’r Red Arrows gael eu harddangos yn ystod cyfarfod uwchgynhadledd y G7 yng Nghernyw fis Mehefin eleni.
Mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi ceisio gwneud yr arddangosfa ychydig yn fwy ‘gwyrdd’, drwy ddefnyddio mwg mwy cyfeillgar i’r amgylchedd.
Mae Jane Harries yn credu bod angen sylweddoli effaith adnoddau rhyfel ar yr amgylchedd.
“Bydden ni’n dweud bod angen i gymdeithas wneud y cyswllt rhwng yr egni sy’n cael ei ddefnyddio a’i wastraffu tra rydyn ni mewn argyfwng hinsawdd,” meddai.
“Dydi llawer o bobol ddim yn gwneud y cysylltiad hwnnw.
“Fe ddylen ni fel cymdeithas fod yn ystyried y niwed sy’n cael ei wneud i’r amgylchedd wrth baratoi tuag at ryfel.”