Mae’r heddlu sy’n ymchwilio i achos o dreisio yng Nghrughywel wedi arestio dyn mewn perthynas â’r digwyddiad honedig.
Cafodd yr heddlu wybod fod dynes wedi cael ei threisio tua 4yb fore Mawrth, Gorffennaf 27, ac mae’r dyn a gafodd ei arestio wedi’i ryddhau dan ymchwiliad erbyn hyn.
Dywed y ddynes ei bod hi’n cerdded ar hyd Ffordd Aberhonddu (ar yr A40) ger yr ysgol gynradd pan ddaeth tri dyn ati, a bod un o’r dynion wedi gafael ynddi a’i threisio.
Mae’r dyn wedi’i ddisgrifio fel dyn tal, ac roedd yn gwisgo cap pêl-fâs, masg du, esgidiau Adidas du oedd yn sgleiniog ar yr ochr, ac mae’n bosib ei fod yn ei arddegau hwyr neu ei ugeiniau cynnar.
“Mae digwyddiadau o’r natur yma yn brin ofnadwy yn ardal Dyfed-Powys,” meddai’r Ditectif Brif Arolygydd Phil Rowe sy’n arwain yr ymchwiliad.
“Mae gennym ni swyddogion arbenigol yn cefnogi’r dioddefwr, ac rydyn ni’n canolbwyntio ar ei llesiant.”
Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.