Mae arbenigwr ar drosedd a diogelwch wedi rhybuddio yn erbyn ffyrdd newydd o ledaenu camwybodaeth ar-lein.
Mae’r Athro Martin Innes, cyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Trosedd a Diogelwch Prifysgol Caerdydd, yn galw am ymchwiliad yn y Senedd i gamwybodaeth a’i ddylanwad.
Dywed fod y protestiadau yn erbyn y cyfnodau clo a’r brechlyn a gafodd eu cynnal tu allan i gartref Mark Drakeford, prif weinidog Cymru, yn dangos bod angen i’r Senedd weithredu.
Fe wnaeth torf o tua 150 o bobol ymgynnull y tu allan i’w gartref, gan weiddi am iddo gael ei arestio.
Wrth ysgrifennu yn the welsh agenda, dywed fod y digwyddiad hwnnw yng Nghaerdydd yn dangos sut mae ein hymateb torfol wedi bod yn arbennig o agored i ddylanwadau gan amrywiaeth o ddamcaniaethau cynllwyn (conspiracy theories) a chamwybodaeth yn ystod y pandemig.
Mesurau atal yn “ddoeth”
Ychwanega’r Athro Martin Innes fod pryderon ynghylch Covid-19 wedi cael eu siapio a’u dylanwadu gan bryder ehangach ynghylch sut mae camwybodaeth yn cael effaith ar nifer o agweddau ar fywyd cymdeithasol.
“Mae’r digwyddiadau diweddar yng Nghaerdydd yn awgrymu bod ôl troed camwybodaeth coronafeirws i’w weld yng Nghymru,” meddai.
“Yn fwy na hynny, mae yna nifer o straeon diweddar, yn enwedig yn ymwneud â gwleidyddion a ffigurau cyhoeddus benywaidd yng Nghymru, yn dweud sut eu bod nhw’n destun camwybodaeth, casineb ac ymgyrchoedd i bardduo eu henwau da.”
“Hyd yn oed os nad yw’r materion hyn yn rhai â chymaint o frys iddyn nhw yng Nghymru â mewn gwledydd eraill, byddai cymryd mesurau i’w hatal yn ddoeth, mae’n debyg.”
‘Seiliau da’
“Yn sgil gwleidyddion Cymru yn cael eu targedu’n ddiweddar, a hyd a lled yr effaith mae camwybodaeth wedi’i gael ar effeithlonrwydd yr ymateb iechyd cyhoeddus i’r coronafeirws yng Nghymru, mae yna seiliau da i lansio ymchwiliad yn y Senedd i’r mater,” meddai wedyn.
“Mae’r rhesymau ‘lleol’ hyn yn cael eu hatgyfnerthu gan y ffaith fod rhai tueddiadau geowleidyddol ehangach i’w gweld yng Nghymru hefyd.
“Er enghraifft, y pwysau economaidd ar ffynonellau newyddion lleol, wrth i batrymau cwsmeriaid ar sut maen nhw’n cael eu newyddion symud tuag at ffynonellau ar y cyfryngau cymdeithasol gael effaith amlwg ar dirwedd cyfryngau Cymru.”
Yn ôl yr Athro Martin Innes, dylai ymchwiliad y Senedd i gamwybodaeth ystyried y tri phrif gwestiwn canlynol:
- ‘Pa dystiolaeth sy’n bodoli i ddangos bod camwybodaeth a chamwybodaeth bwriadol yn cael eu defnyddio i drio dylanwadu ar brosesau gwleidyddol diweddar yng Nghymru?’
- ‘Sut all cyfres o wrthfesurau gael eu defnyddio yn y cyfraddau ac yng ngwleidyddiaeth Cymru er mwyn trio helpu i amddiffyn pobol rhag gwybodaeth niweidiol ac ymgyrchoedd dylanwadu?’
- ‘Beth ellir ei wneud i atal y cyfryngau yng Nghymru rhag dod yn fwyfwy agored i ffynonellau sy’n lledaenu camwybodaeth?