Ers i brotestwyr ymgynnull ger cartref Mark Drakeford yr wythnos ddiwethaf mae yna gryn drafod wedi bod am ddiogelwch a statws swydd y Prif Weinidog.

Tra bod rhai’n dadlau dros gartref swyddogol, mae eraill yn honni nad yw creu Rhif 10 Downing Street, neu Dŷ Bute tebyg, yng Nghaerdydd ar flaen meddyliau etholwyr.

Ond gyda Mark Drakeford yn enw cyfarwydd ar aelwydydd ar hyd a lled Cymru, mae’n peri’r cwestiwn a fyddai cartref swyddogol yn sicrhau diogelwch yn ogystal â chodi statws y swydd?