Fe dyfodd economi’r Deyrnas Unedig 4.8% rhwng Ebrill a Mehefin eleni, wrth i fwy o fusnesau ailagor yn sgil llacio cyfyngiadau Covid-19.
Yn ôl ffigyrau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol, fe fu cynnydd mewn Cynnyrch Mewnwladol Crynswth (GDP) o ganlyniad i gwmnïau fel bwytai, tafarndai a siopau a gwestai yn ailagor.
Wrth i’r cyfyngiadau gael eu llacio, mae mwy o bobol yn barod i wario eu harian ar weithgareddau hamdden.
Mae hefyd yn ymddangos bod ailagor ysgolion wedi cryfhau’r economi.
Gwella’n gryf iawn
Fe ddywedodd y Canghellor Rishi Sunak fod “y ffigurau heddiw’n dangos bod yr economi’n gwella’n gryf iawn”.
“Nawr, mae gan y Deyrnas Unedig y gyfradd twf chwarterol gyflymaf ymhlith economïau’r G7,” meddai.
“Ond dydw i ddim yn hunanfodlon.
“Mae’r economi a’n harian cyhoeddus wedi cael sioc sylweddol, ac mae’n mynd i gymryd amser i ni wella’n llwyr o hynny,” meddai.
Mae disgwyl i’r economi ddychwelyd i’r lefelau cyn Covid erbyn diwedd y flwyddyn.
Yn 2020, y Deyrnas Unedig oedd y wlad gyda’r economi a grebachodd gyflymaf o blith gwledydd y G7, sy’n cynnwys rhai o wledydd cyfoethocaf y byd fel yr Unol Daleithiau a’r Almaen.
Fodd bynnag, roedd y ffigwr ychydig yn is na’r 5% yr oedd Banc Lloegr yn ei ddisgwyl, ac mae economi’r Deyrnas Unedig 4.4% yn llai erbyn hyn nag yr oedd cyn y pandemig.
Dywedodd yr economegydd blaenllaw Ruth Gregory ei bod hi’n addawol y bydd yr economi yn gwneud adferiad erbyn mis Hydref.
“Rydw i’n gyfforddus o feddwl y bydd yr economi’n yn dychwelyd i’w faint cyn pandemig ym mis Chwefror 2020 erbyn diwedd y flwyddyn,” meddai.
“Mae’n rhaid cofio hefyd y gallai’r economi synnu’r rhan fwyaf o ragolygon eto drwy ddod allan o’r pandemig heb lawer o greithiau,” meddai.
Economïau Ewrop
Er bod economi’r Deyrnas Unedig yn dal i fod yn llai na’i lefel cyn i’r pandemig daro, mae’r Unol Daleithiau wedi gweld ei heconomi yn gwella, gan ei gwneud 0.8% yn fwy na lefelau cyn Covid.
Yn ogystal, mae economi Ffrainc yn 3.3% yn is na lefelau cyn y pandemig, yr Almaen 3.6% yn is a’r Eidal hefyd 3.8% yn is.