Mae triniaeth y Ceidwadwyr o gyn-filwyr Gurkha yn “warthus”, yn ôl arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru.

Daw sylwadau Jane Dodds wrth i nifer o Gurkhas gyrraedd eu chweched diwrnod yn ymprydio ger Downing Street.

Dechreuodd yr ympryd dros bensiynau teg ddydd Sadwrn (Awst 7), wedi i Lywodraeth San Steffan wrthod rhoi’r un pensiynau iddyn nhw â’r milwyr Prydeinig oedd yn ymladd ochr yn ochr â nhw.

Mae un o’r cyn-filwyr, Gyanraj Rai, eisoes wedi dweud wrth y BBC ei fod e’n barod i lwgu i farwolaeth oni bai bod y llywodraeth yn cytuno i roi’r un pensiwn iddo.

Cafodd gazebo’r Gurkhas ei chymryd oddi arnyn nhw gan yr heddlu yn gynharach yn yr wythnos gan ei bod yn “torri is-ddeddfau lleol” sy’n golygu eu bod nhw nawr yn cynnal y brotest yn yr awyr agored.

Enillodd y Gurkhas, grŵp elitaidd o filwyr o Nepal wnaeth ymladd dros y Deyrnas Unedig yn y ddau Ryfel Byd ac mewn brwydrau a rhyfeloedd eraill, eu hawl i ddinasyddiaeth yn 2009 yn dilyn ymgyrch gyda’r actores Joanna Lumley.

Fodd bynnag, mae’r rhai a ymladdodd cyn 1997 yn derbyn pensiynau ar gyfraddau Byddin India, yn hytrach na chyfraddau Byddin Prydain.

Mae’r cyfraddau hynny lawer is na rhai Byddin Prydain, a dydyn nhw ddim yn cyd-fynd â chostau byw’r Deyrnas Unedig.

“Gwarthus”

Mae’n debyg fod tua 25,000 o Gurkhas wnaeth ymddeol cyn 1997 wedi cael eu gwrthod rhag cael pensiwn llawn.

Ers bron i hanner canrif, mae catrawd y Gurkhas wedi’u lleoli yn Aberhonddu, ac mae “perthynas hir” â nhw ym Mhowys, meddai Jane Dodds.

“Mae’n warthus bod y llywodraeth wedi caniatáu i’r mater hwn gyrraedd pwynt lle mae gennym gyn-filwyr Gurkha yn mynd ar streic newyn,” meddai Jane Dodds.

“Mae’r rhain yn bobol sydd wedi rhoi eu bywydau er diogelwch ein gwlad dro ar ôl tro. Mae’n bradychu gwerthoedd Prydain yn llwyr.

“Rwy’n siŵr y bydd nifer o drigolion [Powys], fel fi, yn gweld y newyddion hyn yn peri gofid mawr ac yn sarhad ar y rhai sydd wedi ein gwasanaethu.

“Rydym i fod yn genedl o dosturi, ond os na allwn ddangos hynny tuag at y rhai sydd wedi ein gwasanaethu, beth mae hynny’n ei ddweud am sefyllfa bresennol ein gwlad a’n llywodraeth?

“Rwy’n galw ar ein Haelodau Seneddol Ceidwadol i wthio’r llywodraeth a’u cydweithwyr i roi i’r Gurkhas y lefel o bensiwn y maen nhw’n ei haeddu, sy’n gyfartal â’u cydwladwyr Prydeinig.”