Mae undeb UNSAIN wedi dweud wrth staff yr heddlu am “wrthod” y cynnig i “rewi eu cyflogau”.
Bydd pleidlais yn cael ei chynnal yr wythnos hon i weld a yw staff yr heddlu yng Nghymru a Lloegr am dderbyn cynnig cyflog Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
Cafodd ymgynghoriad ei lansio gan Goleg Brenhinol y Nyrsys heddiw (dydd Iau, Awst 12) hefyd, er mwyn ceisio barn eu haelodau ar y codiad cyflog o 3% sydd wedi’i gynnig i staff y Gwasanaeth Iechyd gan lywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig.
Pe bai’r rhan fwyaf yn pleidleisio yn erbyn y codiad cyflog a’r wobr ariannol, gallai pleidleisiau eraill gael eu cynnal i benderfynu a fydd streicio neu weithredu diwydiannol arall.
Yr heddlu
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig eisiau rhewi cyflogau’r rhan fwyaf o staff yr heddlu, a rhoi £250 i weithwyr sydd ar gyflogau o hyd at £24,000.
Cafodd ymgynghoriadau eu lansio ymhlith aelodau UNSAIN sy’n gweithio i’r heddlu ddechrau’r wythnos, a bydd ar agor tan Fedi 6.
Mae UNSAIN yn disgrifio’r cynnig fel un “sarhaus” nad yw’n gwobrwyo gwaith caled yr heddlu yn ystod y pandemig, nac yn gwneud iawn am ddegawd o wobrwyon ariannol gwael.
12.2% yw gwerth yr holl godiadau cyflog i staff yr heddlu dros y degawd diwethaf, tra bod cost byw wedi codi 27.6%.
“Rhaid i rywbeth newid”
“Mae staff yr heddlu wedi bod yn angenrheidiol wrth ganiatáu i’n gwasanaethau rheng flaen barhau i gadw ein cymunedau’n sâff ac yn rhoi gwybodaeth iddyn nhw dros yr 16 mis diwethaf,” meddai Joanne Everson, is-gadeirydd Heddlu a Chyfiawnder UNSAIN Cymru.
“Fe wnaeth natur eu gwaith, fel arfer yn gweithio mewn sefyllfaoedd brys lle mae peryg i fywyd a lle mae cadw pellter cymdeithasol yn amhosib, roi’r staff mewn perygl uwch o fod yn agored i’r feirws, ac efallai o gario’r feirws adre’ i’w hanwyliaid.
“Dydi eu hymroddiad a’u haberthau heb gael eu cydnabod drwy’r rhewi cyflog a gafodd ei gyhoeddi’n ddiweddar gan y llywodraeth.
“Dros y degawd diwethaf, mae costau byw wedi codi ddwywaith gymaint â’n cyflog. Mae’n rhaid i rywbeth newid, neu bydd hynny’n parhau.
“Mae UNSAIN yn gofyn i’w aelodau yng Nghymru a Lloegr yrru neges gref at Lywodraeth y Deyrnas Unedig drwy wrthod y rhewi yn eu cyflogau.”
“Diangen a chas”
“Diolchodd yr Ysgrifennydd Cartref i staff yr heddlu am eu gwaith yn ystod y pandemig, ond ni fydd diolch yn talu’r biliau ar ben ei hun,” meddai Ben Priestley, swyddog cenedlaethol y Deyrnas Unedig dros yr heddlu gydag UNSAIN.
“Mae staff yr heddlu yn flin ac mae UNSAIN yn benderfynol o sicrhau cytundeb cyflog gwell iddyn nhw.
“Mae’r rhewi hwn mewn cyflogau gan y llywodraeth yn ddiangen a chas.
“Does yna ddim gwobr i staff sy’n cadw cymunedau’n ddiogel yn ystod y pandemig a’r risgiau wnaeth staff eu cymryd yn dod i’r gwaith yn ystod y cyfnodau clo.”
Nyrsys
Mae Coleg Brenhinol y Nyrsys yn lansio ymgynghoriad ar y codiad cyflog o 3% sy’n cael ei gynnig gan Lywodraeth Cymru i staff y Gwasanaeth Iechyd hefyd.
Cafodd yr ymgynghoriad ei lansio heddiw, ac mae gofyn i aelodau ddweud a yw’r cynnig yn dderbyniol neu’n annerbyniol.
“Mae’n bwysig iawn fod pob aelod cymwys yn cymryd y cyfle hwn i ddefnyddio eu pleidlais,” meddai Richard Jones, cadeirydd Bwrdd Cymru yng Ngholeg Brenhinol y Nyrsys.
“Mae hon wedi bod yn flwyddyn heb ei thebyg ac rydyn ni eisiau gwybod beth mae ein haelodau’n ei feddwl ynghylch y 3% mae’r Llywodraeth wedi’i gynnig.”
Ychwanegodd cyfarwyddwr Coleg Brenhinol y Nyrsys Cymru, Helen Whyley, fod nyrsys a staff nyrsio wedi “rhoi eu bywydau mewn perygl” dros y deuddeg mis diwethaf.
“Maen nhw wedi gadael eu hanwyliaid i ofalu am gleifion a dod allan o ymddeoliad i gefnogi pandemig Covid-19,” meddai.
“Ond maen nhw’n dweud wrtha’ i nad ydyn nhw’n teimlo eu bod nhw’n cael eu gwerthfawrogi, a bod ysbryd staff yn is nag erioed gyda nifer o nyrsys yn dioddef blinder.
“Mae Coleg Brenhinol y Nyrsys yn ymgyrchu dros dâl teg i nyrsys.
“Dydi’r codiad cyflog o 3% gan Lywodraeth Cymru ddim yn mynd ddigon pell, ac ni fydd yn cydnabod yr angen i sicrhau lefelau staff nyrsio diogel nac yn llenwi nifer sylweddol o swyddi gwag yng Nghymru.
“Rydyn ni’n galw am godiad cyflog sy’n cydnabod y cyfraniad anferth mae nyrsio wedi’i wneud yn ystod y pandemig yn ogystal â’r sgiliau, cyfrifoldebau a phrofiad cymhleth sydd eu hangen bob dydd ar nyrsys cofrestredig a gweithwyr gofal iechyd Cymru”.