Bydd sawl rhan o arfordir Cymru’n debygol o gael llifogydd difrifol erbyn 2050, yn ôl map rhyngweithiol gan y sefydliad newyddion Climate Central, sy’n dangos yr ardaloedd fydd dan fygythiad yn y dyfodol.

Mae’r mapiau’n dangos bod rhannau helaeth o ddinasoedd Caerdydd, Abertawe a Chasnewydd mewn perygl o gael llifogydd difrifol erbyn 2050.

Er hynny, roedd canfyddiadau arolwg gan Lywodraeth Cymru’n dangos mai dim ond 15% o bobol oedd yn pryderu am effeithiau newid hinsawdd ar eu hardal nhw.

Wrth ymateb i’r arolwg, dywedodd Julie James, yr Ysgrifennydd Newid Hinsawdd, fod angen gweithredu a buddsoddi arian i atal effeithiau newid hinsawdd ar unwaith.

“Rydyn ni’n gwybod y bydd newid hinsawdd yn effeithio ar bob un o’n cymunedau, ac mae’n cael ei ragweld y bydd llifogydd yng Nghymru yn digwydd yn amlach ac yn fwy difrifol na beth rydyn ni wedi ei weld dros y ddwy flynedd ddiwethaf,” meddai.

“Rhaid i ni beidio â chael ein gorlethu gan y camau rydyn ni’n eu cymryd heddiw i fuddsoddi yn ein dyfodol.

“Bydd Cymru Sero-Net yn edrych yn iachach, yn hapusach ac yn fwy llewyrchus i ni a’n plant a’n hwyrion, a’r holl genedlaethau sy’n dilyn.”

Caerdydd a Chasnewydd

Bydd y rhannau o’r brifddinas rhwng y Bae a ffordd yr A48 o dan fygythiad o lifogydd erbyn 2050, yn ôl y mapiau.

Yn ogystal, fe fydd yr ardal risg yn ymestyn ar hyd glannau’r Hafren i Gasnewydd, ac mae rhan fwya’r ddinas honno, sydd ar lan yr afon Wysg, yn cael eu goleuo ar y map.

Mae’r map yn dangos hefyd fod ardal Bryste yn Lloegr yn goch.

Bae Abertawe a Llanelli

Mae Bae Abertawe – o’r Mwmbwls i Borthcawl – yn debygol o gael llifogydd mwy difrifol erbyn 2050.

Dyma oedd safle’r morlyn llanw a gafodd ei wrthod yn ôl yn 2018, cynllun oedd am ddarparu trydan gwyrdd i 120,000 o dai am 120 o flynyddoedd.

Mae ardal tref Llanelli i’r gorllewin hefyd yn cael ei nodi fel ardal sydd mewn perygl.

Aberystwyth a Borth

Mae tref Aberystwyth, ar lan yr afon Rheidol, wedi ei daro’n wael gan lifogydd yn ystod y cyfnod clo y llynedd, ac fe wnaeth sawl adeilad weld difrod yn cynnwys Canolfan y Celfyddydau.

Mae’r dref yn debygol o ddioddef llifogydd mwy difrifol erbyn 2050.

Bydd ardal Borth a chors Fochno ar lan yr afon Dyfi, mewn perygl sylweddol hefyd.

Mae Cyngor Ceredigion wedi gwario hyd at £30m yn y gorffennol i adeiladu morglawdd i atal tonnau rhag gorlifo ond mae’n debygol y bydd angen mwy o waith maes o law.

Caernarfon a Dinas Dinlle

Mae rhan helaeth o lannau’r Fenai yn cael ei nodi mewn coch ar y mapiau.

Bydd cei Caernarfon yn fwy tebygol o gael llifogydd, sydd yn newydd drwg i’r holl ddatblygiadau newydd yno.

Mae Bae’r Foryd a Dinas Dinlle bron yn gyfangwbl wedi eu nodi fel ardaloedd sydd o dan fygythiad ac mae’n siŵr y bydd angen adeiladu amddiffynfeydd mwy cadarn os am atal yr ardal rhag cael ei effeithio o ddifrif.