Mae teithwyr o Gymru sy’n teithio dramor yn gorfod talu £10 yn fwy am brawf Covid-19 na phobl yn Lloegr.
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn honni fod prisiau’r profion yng Nghymru yn dechrau o £88, dros £10 yn fwy na’r pris cyfartaledd Lloegr.
Mae’r profion yn ddrutach yng Nghymru oherwydd bod Llywodraeth Lafur Cymru yn mynnu bod yn rhaid i bobl ddefnyddio profion PCR penodol y Gwasanaeth Iechyd ar ôl iddynt ddychwelyd.
Mae dirwy o £1,000 am ddefnyddio darparwr prawf preifat yn lle hynny.
Fe gyhuddodd Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig Keir Starmer, arweinydd y Blaid Lafur o “droi llygad dall at Fae Caerdydd” ar ôl iddo feirniadu costau uchel profion PCR yn Lloegr tra bod y gost yng Nghymru, dan Lywodraeth Lafur Cymru yn uwch.
Anoddach
“Arhoswch nes bydd Syr Keir Starmer yn clywed faint mae profion dan Lywodraeth Lafur Cymru yn costio lle mae prisiau’n dechrau o £88, dros £10 yn fwy na chyfartaledd Lloegr,” meddai
“Ni ddylem ddisgwyl dim llai gan Lafur sy’n ei gwneud hi’n anoddach i deuluoedd sy’n gweithio yng Nghymru i deithio dramor, gan sicrhau mai dim ond gweithgaredd sydd ar gael i’r cyfoethocaf yn ein cymdeithas ydyw.
“Dim ond y mis diwethaf, fe ddywedodd Mark Drakeford na fyddai’n gorchymyn ei weision sifil i’w gwneud yn haws ac felly’n rhatach i bobl ledled Cymru fynd ar wyliau tramor.
“Unwaith eto, mae Starmer yn hapus i feirniadu ei wrthwynebwyr yn San Steffan wrth droi llygad dall at yr hyn mae ei blaid ei hun yn ei wneud ym Mae Caerdydd.”
Fe ddywedodd Syr Keir Strarmer arweinydd y Blaid Lafur ei fod yn “poeni am faint o amser mae’n ei gymryd ar gyfer profion a chostau profion”.
Y gost
Yng Nghymru mae un prawf PCR yn costio £88 ac mae’n £170 i ddau, ond yn Lloegr gall bobl ddewis o hyd at 400 o ddarparwyr preifat a thalu llai na £50 y prawf.
Yn ôl gwefan Which mae pobl yn Lloegr yn talu £85 am prawf PCR cyn teithio dramor, yna £39 am brawf cyflym antigen yn ogystal â phrawf PCR dau ac wyth ddiwrnod ar ôl dychwelyd sy’n costio ar gyfartaledd £95.
Mae Llefarydd y Ceidwadawyr Cymreig dros Iechyd Russell George wedi ysgrifennu at Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd yn galw ar lywodraeth Cymru i ail-edrych ar y costau.
“Mae’r costau uchel yn ymddwyn fel rhwystr gan atal pobl i fynd dramor, yn enwedig i deuluoedd sydd am deithio gyda’i gilydd,” meddai.
“I deulu o bedwar sy’n cyrraedd Cymru o ‘wlad werdd’, gyda dau o blant dros 5 oed, byddant yn wynebu cost o £352 am brofion, gan wneud teithio’n bosibl i’r cyfoethocach mewn cymdeithas yn unig.”
‘Twyllo’
“Mae llawer o bobl yn dychwelyd o dramor yn teimlo nad ydyn nhw’n mynd i mewn i system drefnus ac a dweud y gwir rwy’n credu eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu twyllo,”
“Rwy’n gwybod y gall cost profion PCR fod yn rhwystr i ormod o bobl, yn enwedig i deuluoedd sydd am deithio gyda’i gilydd.
“Rydym i gyd wedi profi newid enfawr i’n bywydau dros y pandemig hwn ond nid yw’n iawn os bydd rhai teuluoedd yn profi aflonyddwch pellach eto o achos i annhegwch y farchnad ar gyfer profion teithio preifat.”
Mae Golwg360 wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am ymateb.