Mae erthygl gan BBC Wales News am ganu anthem genedlaethol Lloegr mewn campau chwaraeon wedi ennyn ymateb tanllyd ar wefannau cymdeithasol.

Mae’r erthygl “A ddylai timau [chwaraeon] Cymru ganu God Save the Queen”  wedi denu dros 2,500 o ymatebion ar Twitter a Facebook.

Daw’r drafodaeth yn dilyn sylwadau Archesgob Efrog, Y Parchedig Steven Cotterell, a ddywedodd y byddai canu ‘God Save The Queen’ cyn gemau chwaraeon yn fodd o adfer undod o fewn y Deyrnas Unedig.

Fe ddywedodd fod nifer bellach yn ystyried y gân yn anthem i Loegr yn unig yn hytrach nag i Brydain gyfan.

“Pan fydd gwledydd y Deyrnas Unedig yn mynd benben â’i gilydd ar y cae chwarae, fe allwn ni ganu anthem yr Alban, Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Yna, fe allwn ni gydganu ein hanthem genedlaethol [God Save the Queen].”

Eleni yn Tokyo fe chwaraewyd ‘God Save The Queen’ wedi buddugoliaethau athletwyr Team GB hyd yn oed os oedden nhw yn hanu o Gymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon, a hynny yn ôl yr arfer.

Gwylltio

Mae Elin Young o Rydaman yn un o blith nifer sydd wedi gwylltio gyda sylwadau’r Archesgob.

“Pa hawl sydd gan rywun fel yr Archesgob i ddweud wrthom ni beth i’w wneud?” meddai.

“Oes, mae hawl gan yr Esgob i rannu ei farn wleidyddol, mae crefydd yn rhan o’n bywydau yn yr un modd â gwleidyddiaeth, mae’r ddau beth ar adegau yn gorfod croesi ond dydy ei farn ddim yn parchu bodolaeth fy nghenedl i.

“Dim ond nawr mae pobol dros Glawdd Offa yn dechrau sylweddoli beth yw cenedligrwydd ac mae ganddyn nhw lot i’w ddysgu.

“Dw i, fel nifer o Gymry eraill, wedi gwylltio o weld Cymru dan faner Team GB yn canu anthem God Save The Queen, anthem Lloegr.

“Dylen ni, fel Cymry, gael yr hawl i ganu ein hanthem ni yn y Gemau yn Tokyo, ac yn yr un modd, dylen ni gael yr hawl i gystadlu dan faner ein hunain mewn cystadlaethau eraill y tu hwnt i chwareon fel Eurovision.

“Dw i wedi gwylltio gyda’i sylwadau a byddwn i’n eithaf hapus i Loegr ganu beth bynnag hoffen nhw, ond peidiwch â dweud wrthyf beth i’w wneud, a pharchwch y tair cenedl arall sy’n rhan o ynysoedd Prydain.

“Ond dewch i ni gael bod yn onest fan hyn, mae’n stori gan y BBC sydd wedi ymddangos achos bod dim byd arall yn digwydd dros gyfnod yr haf.

“Maen nhw’n chwilio am straeon ac am rywbeth fydd yn gwneud yn dda ar-lein.”

Mae un o brif ddarlledwyr y BBC, Huw Edwards hefyd wedi ymuno yn y drafodaeth gan awgrymu bod yr haf yn gyfnod sy’n brin o newyddion.

“Ymlaciwch bawb. Mae’n fis Awst. Mae yna bob math o nonsens yn cael bod yn ‘newyddion’. Cymerwch ddiod ac ewch oddi ar Twitter — Iechyd da bawb,” meddai.

Mae Hen Wlad Fy Nhadau wedi ei chanu gan dimau Cymru ers 1905 pan wynebodd tim rygbi Cymru Seland Newydd.

Mae lle i gredu mai dyma un o’r troeon cyntaf i anthem gael ei chanu cyn gêm chwaraeon rhyngwladol yn unrhyw le yn y byd.