Mae plentyn dwy oed wedi ei ganfod mewn cyflwr difrifol ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Cafodd heddlu eu galw i ardal Broadlands y dref ychydig cyn wyth o’r gloch ddoe (dydd Mercher, Awst 11).

Fe wnaeth swyddogion ymateb i’r alwad ac mae’r plentyn yn dal i fod mewn cyflwr difrifol yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd.

Mae’r heddlu yn cynnal ymchwiliad i’r digwyddiad, ac mae menyw 31 oed eisoes wedi ei harestio ar amheuaeth o geisio llofruddio’r bachgen.

Mae’r ddynes yn y ddalfa wrth i Heddlu De Cymru ymchwilio i’r achos.

Mae’r heddlu wedi bod yn gwneud ymholiadau drws i ddrws heddiw (ddydd Iau, Awst 12), ac fe gafodd swyddogion fforensig eu gweld hefyd.

Roedd ambiwlans wedi bod yn yr ardal neithiwr (nos Fercher, Awst 11), yn ogystal â sawl car heddlu.

Gwybodaeth

“Ychydig cyn wyth o’r gloch y nos ddydd Mercher, fe gafodd yr heddlu eu galw i gyfeiriad yn ardal Broadlands yn dilyn adroddiad bod bachgen dwy oed mewn cyflwr difrifol,” meddai llefarydd ar ran Heddlu’r De.

“Fe gafodd y plentyn ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd, lle mae’n parhau i fod mewn cyflwr difrifol.

“Mae dynes 31 oed wedi’i harestio ar amheuaeth o geisio llofruddio ac mae hi’n dal i fod yn y ddalfa.”

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.