Mae’r Ysgrifennydd Addysg Jeremy Miles wedi llongyfarch dysgwyr sy’n derbyn canlyniadau TGAU a chymwyserau galwedigaethol heddiw (dydd Iau, Awst 12).

Roedd yna 328,658 o gofrestriadau TGAU eleni, cynnydd o 8.6% ers y llynedd.

Roedd 29% o’r cofrestriadau yn raddau A* neu A, tra bod 74% wedi ennill graddau A* i C.

Bu’r broses asesu yn wahanol eleni, gan nad oedd modd cynnal arholiadau.

Fe ddarparodd Llywodraeth Cymru £9m i gefnogi ysgolion a cholegau i gyflawni asesiadau, tra bod £26m wedi ei ddarparu ar gyfer cyrsiau galwedigaethol ac ymarferol.

Mae Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Gymraeg ac Addysg, wedi llongyfarch pob un a fu’n rhan o’r asesiadau eleni.

‘Da iawn chi’

“Ein blaenoriaeth eleni oedd rhoi system ar waith fel bod dysgwyr yn derbyn graddau’n seiliedig ar dystiolaeth o’u gwaith sy’n eu galluogi i symud ymlaen i gam nesaf eu haddysg, eu hyfforddiant neu waith yn hyderus,” meddai.

“Fy neges i fyfyrwyr TGAU eleni yw ‘da iawn chi’.

“Rydych wedi wynebu cymaint o heriau dros y 18 mis diwethaf – cyfnodau clo, amser i ffwrdd oddi wrth eich ffrindiau a’ch teuluoedd, ac adegau lle rydych wedi colli allan ar lawer o’r gweithgareddau cymdeithasol y dylech chi fod yn eu mwynhau.

“Rydych wedi dangos gwydnwch aruthrol i oresgyn yr holl heriau hyn.

“Rwyf hefyd am longyfarch dysgwyr ar ganlyniadau eu cymwysterau galwedigaethol.”

Cymwysterau

“Mae sgiliau mewn sectorau blaenoriaeth yn hanfodol bwysig o ran diwallu ystod anghenion economi Cymru, nawr yn fwy nag erioed o’r blaen, a bydd y cymwysterau rydych wedi gweithio’n galed i’w hennill yn eich rhoi mewn sefyllfa dda ar gyfer y dyfodol.

“Mae hefyd wedi bod yn gyflawniad rhyfeddol gan holl staff yr ysgolion a’r colegau sydd wedi gweithio mor galed i alluogi cymwysterau eleni.

“Mae wedi bod yn dasg aruthrol rhoi mesurau ar waith fel bod dysgwyr yn gallu cael eu canlyniadau yn yr un modd ag unrhyw flwyddyn arall, a dylech fod yn falch iawn o’r gwaith rydych wedi’i wneud i helpu ein dysgwyr i symud ymlaen.”

‘Cwbl haeddiannol’

“Ar ran Plaid Cymru, hoffwn longyfarch yr holl ddisgyblion sy’n derbyn eu canlyniadau TGAU a BTEC heddiw,” meddai Sioned Williams, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd.

“Mae wedi bod yn ddeunaw mis anodd a heriol i ddisgyblion ddweud y lleiaf.

“Dylen nhw i gyd fod yn falch iawn o’u gwaith caled, eu gwydnwch a’u cyflawniadau heddiw.

“Mae eu canlyniadau’n gwbl haeddiannol, a dymunaf bob lwc iddynt yn eu camau nesaf.”