Mae’r Taliban wedi cipio prif ddinas ranbarthol Ghazni yn Affganistan.

Deellir fod 10 o 34 o brifddinasoedd taleithiol y wlad bellach yn nwylo’r gwrthryfelwyr.

Daw hyn ar ôl i’r Arlywydd Joe Biden orchymyn bod holl luoedd yr Unol Daleithiau yn gadael y wlad erbyn diwedd y mis.

Bydd lluoedd Nato hefyd yn gadael y wlad.

Roedd yr ymladd wedi parhau ar gyrion dinas Ghazni am beth amser.

Gorchfygu

Fodd bynnag, dywed swyddogion fod Taliban yn codi eu baner a bod y ddinas wedi tawelu ar ôl oriau o ymladd trwm.

Nid oedd Llywodraeth ganolog Affganistan yn Kabul na’r grymoedd diogelwch wedi cydnabod fod Ghazni – sydd tua 80 milltir o Kabul – wedi ei gorchfygu i ddechrau.

Roedd y Taliban hefyd wedi cipio pencadlys yr heddlu mewn prifddinas daleithiol yn ne Affganistan.

Nid yw lluoedd diogelwch Affganistan na’r Llywodraeth wedi ymateb i geisiadau am sylwadau yn ystod y dyddiau diwethaf o ymladd.

Fodd bynnag, mae’r Arlywydd Ashraf Ghani yn ceisio cynllunio gwrthymosodiad sy’n dibynnu ar luoedd arbennig ei wlad yn ogystal â lluoedd awyr Americanaidd.