Mae Heddlu’r Gogledd wedi canfod carafán oedd wedi cael ei ddwyn 14 mlynedd yn ôl.

Roedd y carafán wedi cael ei ddwyn yn Swydd Efrog yn 2007, ac fe gafodd ei stopio yn Ewlo fel rhan o ymgyrch ar y cyd gydag Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau (DVSA).

Mae’r asiantaeth wedi bod yn taclo gyrwyr carafanau a chartrefi modur sy’n troseddu.

Fe gollodd y gyrrwr ei gerbyd am yrru heb yswiriant a thorri amodau ei drwydded.

Yr heddlu’n cyrchu un carafán. Llun o dudalen Facebook HGC Uned Plismona’r Ffyrdd

Yn yr un ymgyrch, roedd carafán gyda goleuadau diffygiol arall wedi ei gymryd gan yr heddlu am beidio cydweithredu â rheolau diogelwch.

Roedd gyrrwr arall wedi ei orchymyn i osod teiar newydd yn y fan a’r lle gan yr heddlu, ac fe gafodd ei adael yn rhydd gyda dim ond rhybudd.

Rhybuddio

Ar eu tudalen Facebook, fe ddywedodd yr heddlu: “Gweithredodd swyddogion ar y cyd â’r DVSA i dargedu diogelwch carafanau yn ogystal â chanfod carafanau a moduron wedi’u dwyn.

“Fe gafodd sawl perchennog carafán eu stopio a’u rhybuddio.

“Os oes gennych unrhyw wybodaeth am garafanau neu gartrefi modur wedi’u dwyn, cysylltwch â’r heddlu trwy ein gwefan neu’n ddienw drwy Taclo’r Tacle.”

Cyrchu yng Nghaernarfon. Llun o dudalen Twitter Heddlu Gogledd Cymru.

Ddeufis yn ôl, fe gyrchodd yr heddlu dri charafán oedd wedi eu dwyn yng Nghaernarfon, gydag un dyn yn cael ei arestio fel rhan o’r digwyddiad.