Mae cryn dipyn o drafod ynghylch y ffordd orau i asesu pobol ifanc yn y dyfodol, a diben arholiadau TGAU.

Daw hyn wrth i fyfyrwyr TGAU dderbyn eu canlyniadau swyddogol heddiw (dydd Iau, 12 Awst).

Athrawon oedd yn gyfrifol am bennu graddau eleni yn sgil canslo arholiadau.

Mae disgwyl i’r canlyniadau fod yn debyg i ganlyniadau Lefel A dydd Mawrth (10 Awst) lle’r oedd bron i hanner (48.3%) yr holl raddau yn rhai A neu A*.

Mae undeb athrawon UCAC yn cwestiynu a ddylai cael gwared ar neu leihau gofynion arholiadau TGAU.

“Mae cwestiynau mawr yn codi ynghylch diben ac addasrwydd TGAU,” meddai Rebecca Williams, swyddog polisi’r undeb.

Cymesur

“Nid yw’n glir o gwbl bod angen set anferth o arholiadau allanol, ffurfiol yn 16 oed bellach.

“Gellir cael mynediad at y camau nesaf o addysg neu hyfforddiant drwy ddulliau asesu eraill, mwy cymesur, a mwy adeiladol.

“Gyda’r cwricwlwm newydd ar ei ffordd, mae UCAC yn credu bod angen newid sylweddol i’r drefn TGAU.

“Bydd angen i’n systemau asesu gyd-fynd gydag amcanion ac ethos y cwricwlwm newydd – ac mae TGAU, fel y mae ar hyn o bryd, yn bell iawn o gyflawni’r gofynion hynny.”

Ac mae’r Gweinidog Addysg, Jeremy Miles, hefyd wedi dweud bod lle i drafod ynghylch asesu disgyblion yn y dyfodol.

Wrth siarad ar raglen ‘Dros Frecwast’ BBC Radio Cymru, dywedodd bod lle i arholiadau, ond bod angen balans wrth i Gymru gyflwyno cwricwlwm newydd.

Ychwanegodd fod y system eleni yn “deg ac yn ddibynadwy”.

‘Angen cadw arholiadau’

Fodd bynnag, mae’r corff sy’n rheoleiddio cymwysterau, Cymwysterau Cymru, wedi amddiffyn y system arholiadau.

Arholiadau, ochr yn ochr â mathau eraill o asesu “yw’r ffordd decaf o hyd i asesu lefel cyrhaeddiad dysgwr”, yn ôl y corff.

“Mae lot o bobl ifanc yn mynd i brifysgol lle mae dal llawer o bwyslais ar wneud arholiadau,” meddai David Jones, cadeirydd Cymwysterau Cymru

“Hefyd ar ôl gorffen gradd mae lot o bobl yn gweithio mewn meysydd proffesiynol a dysgu am oes ac mae pobl angen gwneud arholiadau proffesiynol.”