Mae’r naturiaethwr Iolo Williams wedi trafod ei rwystredigaeth ar ôl i’w fam orfod disgwyl chwe awr am ambiwlans.
Roedd ei fam, Megan Williams, sy’n 90 oed ac sy’n byw yn Y Felinheli, Gwynedd wedi disgyn o’i gwely tua 7 fore Mercher (11 Awst).
Fe gyrhaeddodd yr ambiwlans am 13:00, a’i chludo i Ysbyty Gwynedd ym Mangor.
Dyw ei chartref ddim ond pedair milltir i ffwrdd o’r ysbyty.
Toriadau i gyllid y Gwasanaeth Iechyd sydd i’w beio am ddiffygion, yn ôl Iolo Williams.
Beio
A dywedodd wrth golwg360 nad yw’n beio gweithwyr y Gwasanaeth Ambiwlans “o gwbl”.
“I fod yn deg, nid bai y bois ambiwlans ydi o,” meddai.
“Maen nhw’n gorfod eistedd y tu allan i ysbyty ac aros nes bod yna wely yn dod ar gael iddyn nhw allu dadlwytho’r person sydd ganddyn nhw yn yr ambiwlans.
“Felly dim ei bai nhw ydi o gwbl.
“Ond dyna oedd y rheswm (dros orfod aros chwe awr).
“Dw i’n beio polisi ar ôl polisi ar ôl polisi o dorri yn ôl er gwaethaf y ffaith fod y gwleidyddion ‘ma yn mynd ar y teledu ac yn dweud eu bod nhw’n rhoi mwy o arian nag erioed i mewn.
Buddsoddiad
“Lol botes maip ydi hynna, ti’n gallu ei weld o.
“Mae pobol yn gorfod gweithio oriau hirach na’r arfer a phob peth jyst i wneud fyny am ddiffyg pres, diffyg buddsoddiad yn y system.”
Eglurodd Iolo Williams ei fod wedi penderfynu trafod achos ei fam er mwyn tynnu sylw pobol at y problemau mae’r Gwasanaeth Iechyd yn eu hwynebu.
Er mae’n cydnabod “ella na fydd mam yn hapus iawn efo fi am wneud”.
“Roeddwn i jyst isio tynnu sylw at beth sy’n mynd ymlaen a pha mor drist ydi o i’r rheini sy’n dioddef yn y pendraw,” meddai.
“Dim fi ydi o, dim fy chwaer, ond mam sy’n mynd i ddioddef yn y pendraw.
“Rhywbryd yn ein bywydau mi fyddan ni gyd ei angen o (y Gwasanaeth Iechyd) ac os fasa hwnna wedi bod yn fater o fywyd neu farw, wel mi fydda mam wedi marw heb os.
“Jyst achos bod diffyg buddsoddiad yn y system wedi ei gadael hi lawr.”