Mae posibilrwydd y bydd trosffordd (flyover) – sydd wedi hollti tref Caernarfon ers y 70au – yn cael ei dymchwel.

Cafodd y drosffordd ei chodi yn y 70au ond roedd cryn wrthwynebiad oherwydd bu’n rhaid chwalu 98 o adeiladau gan gynnwys tai, ysgol gynradd Y Gelli a llyfrgell y dref i wneud lle iddi.

Cafodd y drosffordd – sy’n rhan o gefnffordd (trunk road) yr A487 rhwng Abergwaun a Bangor – ei chodi ar gost o tua £4miliwn.

Nawr, 40 mlynedd yn ddiweddarach mae sôn y bydd yn rhaid ei thynnu i lawr.

Y rheswm am hynny yw gan na fydd ei hangen pan fydd y ffordd osgoi newydd rhwng trofan Plas Menai a throfan y Goat, Llanwnda, yn agor fis Tachwedd ar gost o £135m.

Gan na fydd y drosffordd bellach yn rhan o’r gefnffordd, mae Llywodraeth Cymru am drosglwyddo’r cyfrifoldeb o’i chynnal a’i chadw i Gyngor Gwynedd.

Dywed y Cyngor y bydda nhw unai yn ei thynnu i lawr – gyda’r Llywodraeth yn talu am y gost – neu yn ei chadw.

Ond cyn gwneud y penderfyniad, bydda nhw yn cynnal ymchwiliad cyhoeddus fis Medi i ofyn beth yw barn y bobl a’u dymuniad nhw.

Newid dwylo

O oddeutu 2022 ymlaen, mae’n debyg fydd adran amgylchedd Cyngor Gwynedd yn derbyn cyfrifoldeb dros yr hen briffordd.

Dywedodd pennaeth yr adran Dafydd Wyn Williams wrth golwg360: “Mae Llywodraeth Cymru’n rheoli’r lôn trwy Gaernarfon ar hyn o bryd fel cefnffordd.

“Yn arferol, fel digwyddodd efo ffyrdd osgoi Porthmadog a Phenygroes, maen nhw’n trosglwyddo cyfrifoldeb dros yr hen gefnffordd i ddwylo’r Cyngor.

“Ond dydy’r Cyngor ddim eisiau derbyn gormod o rwymedigaethau, felly os oes pont yna, er enghraifft, sydd angen lot o waith, mae angen inni ddeall costau hynny.

“Mae yna setliad ariannol fel arfer yn cael ei roi [gan Lywodraeth Cymru] i sicrhau bydd y Cyngor ddim ar eu colled, ac rydyn ni angen sicrhau bod y setliad cyllidol hwnnw yn ddigon i oresgyn unrhyw gostau ychwanegol.

“Y cwestiwn sydd rhaid gofyn ydy a oes wir angen y drosffordd.

Opsiynau

“Rydyn ni wedi bod yn ystyried y gost o ddod â hwnnw i safon uwch, sydd ddim yn mynd i fod yn rhad, wedyn rhaid ystyried os oes angen hi yn ymarferol ar ôl cwblhau’r ffordd osgoi.

“Mae gennym ni opsiynau, ac rydyn ni wedi bod yn trafod hynny â Llywodraeth Cymru ers dros ddwy flynedd.

“Roedden ni am gael ymgynghoriad cyhoeddus cwpl o fisoedd yn ôl, ond oherwydd Covid, roedd hynny’n amhosibl, felly mae hynny wedi cael i wthio ymlaen i fis Medi eleni.

Yn yr ymgynghoriad hwnnw, bydd y cynlluniau’n cael eu cyflwyno i’r cyhoedd i weld beth fydden nhw’n dymuno ei weld yn y dyfodol.

“Mae yna ddau brif opsiwn wrth gwrs – un ai cadw’r drosffordd neu ei dynnu lawr,” meddai.

“Os ydyn ni’n ei gadw fo – fydden ni’n gallu plannu o gwmpas y ffordd i wneud iddi edrych yn fwy hardd.

“Mae yna hyd yn oed mwy o opsiynau os ydyn ni’n ei dynnu i lawr – fedrwn ni roi cyfleusterau beicio yna er enghraifft.

“Dydyn ni ddim eisiau gwthio agenda yma, dim ond eisiau gwybod beth ydy’r farn yn gyffredinol.

“Mae yna sgôp i wneud rhywbeth yma, ac rydyn ni mewn cyfnod i wneud cynllun cyffrous i’w gwblhau mewn amser derbyniol.”

Arian

Byddai’r pris o ddatblygu safle’r drosffordd yn debygol o gostio miliynau o bunnoedd, ond mae’r Cyngor yn gobeithio bydd hynny’n cael ei ariannu’n llwyr gan grantiau Llywodraeth Cymru.

“Rydyn ni’n siarad yn barod efo Llywodraeth Cymru ynglŷn ag arian,” meddai Dafydd Wyn Williams.

“Mae yna fwy o waith na dim ond tynnu’r ffordd ei hun i lawr oherwydd yn aml mae yna offer fel llinellau ffôn sydd angen ei ailgyfeirio.

“Wrth gwrs, byddai’n rhaid cymharu’r gost o ddymchwel â’r gost o gynnal a chadw’r drosffordd yn y tymor hir.”

Fe gadarnhaodd Llywodraeth Cymru eu rhan yn y cynlluniau.

“Rydyn ni’n gweithio gyda Chyngor Gwynedd i ddatblygu opsiynau ar gyfer trosffordd ac mae penderfyniad eto i’w wneud,” meddai llefarydd.