Mae un o weithwyr llysgenhadaeth Prydain yn Berlin wedi cael ei arestio ar amheuaeth o ysbïo i Rwsia.

Cafodd dinesydd Prydeinig 57 oed – sy’n cael ei adnabod fel David S – ei ddal ddydd Mawrth (10 Awst) ar ôl ymchwiliad ar y cyd rhwng awdurdodau’r Almaen a’r Deyrnas Unedig.

Dywedodd Swyddfa Erlynydd Ffederal yr Almaen fod y dyn wedi’i arestio ar amheuaeth o werthu dogfennau y cafodd afael arnyn nhw drwy ei waith i “gynrychiolydd o’r gwasanaeth cudd-wybodaeth Rwsieg”.

Mae swyddogion o Uned Gwrth Derfysgaeth yr Heddlu Metropolitaidd yn trafod gyda’r adran gyfatebol yn yr Almaen sydd gan “flaenoriaeth” dros yr ymchwiliad.

Er hynny, mae gwasanaeth newyddion PA ar ddeall fod gan wasanaethau diogelwch Prydain “ran sylweddol” yn yr ymchwiliad.

Mae’r dyn – a gafodd ei arestio yn ninas Potsdam – yn cael ei ddal dan gyfraith Almaeneg dan amheuaeth o ymgymryd â “gweithgarwch asiantaeth cudd-wybodaeth”.

Cafodd ei gartref a’i weithle eu harchwilio ar ôl iddo gael ei arestio.

“Annerbyniol”

Mae Swyddfa Dramor yr Almaen yn cymryd yr achos “o ddifrif”, ac mae unrhyw weithgarwch ysbïo yn erbyn gwladwriaeth gynghreiriol ar dir yr Almaen yn “annerbyniol” meddai.

Yn ôl Llywodraeth y Deyrnas Unedig, cafodd y dyn ei “gontractio i weithio i’r Llywodraeth”, tra bod erlynwyr Almaeneg yn dweud ei fod e wedi bod yn gweithio fel “cyflogai lleol” yn y llysgenhadaeth.

Mewn datganiad, dywedodd Swyddfa Erlynydd Ffederal yr Almaen fod y dyn dan amheuaeth o weithio i wasanaeth cudd-wybodaeth o dramor ers o leiaf Tachwedd 2020.

“Ar o leiaf un achlysur fe wnaeth e yrru dogfennau y cafodd afael arnyn nhw drwy ei weithgarwch proffesiynol yn eu blaen i gynrychiolydd o wasanaeth cudd-wybodaeth Rwsia,” meddai’r datganiad.

“Yn gyfnewid am y wybodaeth, derbyniodd y cyhuddedig swm, a oedd yn anhysbys, o arian.”

Dywedodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig y byddai’n anaddas iddyn nhw wneud sylwadau pellach gan fod ymchwiliad heddlu yn cael ei gynnal.

Bydd yn ymddangos o flaen barnwr ymchwiliol yn Llys Ffederal Cyfiawnder Karlsruhe yn hwyrach heddiw (11 Awst).