Mae staff y gwasanaeth ambiwlans yn y gogledd o dan fwy o straen nawr na phan oedd pandemig y coronafeirws ar ei waethaf.
Dywed rhai gweithwyr ambiwlans mai hwn yw’r haf prysuraf maen nhw erioed wedi’i wynebu, tra bod eraill yn rhwystredig eu bod yn gorfod aros y tu allan i unedau brys ysbytai am gyfnodau hir.
Mae ceisio ymateb i’r galw pan nad oes ambiwlansys ar gael yn creu pwysau mawr ar staff sy’n gweithio, yn enwedig gan fod staff yn dweud fod nifer y galwadau maen nhw’n eu derbyn yn uwch nag erioed yr haf hwn.
“Mae’n lot fwy prysur na’r arfer,” meddai Ceri Roberts, y rheolwraig ar ddyletswydd yng nghanolfan reoli’r gwasanaeth ambiwlans yn Llanfairfechan wrth y BBC.
“Dw i wedi bod yn y gwasanaeth am 20 mlynedd – dwi ddim wedi gweld haf fatha hi.
Isel
“Mae Awst wastad yn brysur – ond prysurach na’r arfer nawr.
“Mae 24 o alwadau ar hyn o bryd yn dal i aros am ambiwlansys yn y gymuned, yr alwad amber 2 hiraf wedi bod yn disgwyl am dros bum awr a hanner.”
Ychwanegodd: “Mae staff yn reit isel yn eu gwaith.
“Maen nhw’n gweithio’n galed o fore gwyn tan nos.
“Weithiau maen nhw’n dod mewn am eu shifft nesaf a sbïo ar yr un claf yn dal i fod yn y stac o alwadau ers iddyn nhw fynd adre’ neithiwr.
“Mae’n dorcalonnus braidd… ac mae rhai yn crio ar ôl shifft.”
Mae staff sy’n ateb galwadau brys nawr yn annog y cyhoedd i ystyried cyn ffonio 999.
Maen nhw hefyd wedi dweud wrth bobol droi at wasanaethau eraill megis 111, meddygon teulu, fferyllwyr, unedau mân anafiadau ac ysbytai bach.
Cefnogaeth
“Mae ein gwasanaethau meddyginiaeth frys a 999 wedi gweld cynnydd o ryw 200 o bobl yn y 18 mis diwethaf, ac ry’n ni’n recriwtio a hyfforddi mwy drwy weddill y flwyddyn hon, sy’n golygu parafeddygon ar y strydoedd,” meddai pennaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, Jason Killens
“Mae nifer o gynlluniau gennym hefyd i reoli beth yr ydym yn disgwyl fydd yn aeaf prysur iawn ac anodd.”
Dywedodd Jo Whitehead, prif weithredwr Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, eu bod yn gweithio’n agos gyda phartneriaid lleol i fynd i’r afael â’r broblem.
“Rydym hefyd yn gweithio gyda’r awdurdodau lleol i gefnogi cleifion sydd mewn gwelyau ysbyty ar hyn o bryd, sy’n ddigon iach yn feddygol i fynd adref, ond sydd angen cefnogaeth ychwanegol i ganiatáu iddyn nhw wneud hynny’n ddiogel,” meddai.
“Bydd hyn yn gwella llif pobl yn ein hysbytai gan ein cefnogi i drosglwyddo cleifion o ambiwlansys yn gyflymach.”
Pwysau
Yn ddiweddar fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddi £25m tuag at wella canlyniadau gofal brys ac argyfwng.
“Mae amseroedd trosglwyddo cleifion yn parhau yn her sylweddol ar safleoedd ar draws Cymru, ac yn gallu effeithio nid yn unig ar brofiad cleifion a staff ond ar argaeledd adnoddau ambiwlans i ymateb i alwadau brys eraill yn y gymuned,” meddai mewn datganiad.
“Mae ystod o ffactorau lleol ac ehangach yn cyfrannu at oedi o’r fath, gan gynnwys llai o le mewn adrannau brys ysbytai, mwy o alw am y gwasanaeth a phwysau mewn rhannau eraill o’r system.”