Mae Cyngor Conwy wedi rhoi caniatâd cynllunio amodol i uwchraddio Castell Gwrych.

Cafodd y cynlluniau i uwchraddio’r castell, lleoliad rhaglen I’m a Celebrity Get Me Out of Here llynedd, eu trafod gan Bwyllgor Cynllunio’r cyngor heddiw (11 Awst).

Castell Gwrych ger Abergele fydd cartref y rhaglen eto eleni yn sgil gofidion bod teithio a ffilmio’r rhaglen yn Awstralia’n “rhy anodd” oherwydd cyfyngiadau teithio.

Mae Awstralia wedi rhybuddio y bydd ffiniau rhyngwladol yn aros ar gau am gyfnod amhenodol.

Roedd y cynnig yn cynnwys ymestyn y ffensys diogelwch o amgylch y safle a chadw toeau dros dro wedi i’r ffilmio ddod i ben.

Llaethdy

Bydd Rheolwr Datblygu a Rheoli Adeiladu Cyngor Conwy nawr yn cael ei awdurdodi i wneud penderfyniad ynglŷn â’r cais dan awdurdod wedi’i ddirprwyo.

Cafodd y cais ei drafod gan y Pwyllgor Cynllunio gan fod aelodau o’r cyngor yn aelodau o Ymddiriedolaeth Cadwraeth Castell Gwrych, sy’n adeilad rhestredig Gradd 1.

Mae’r gwaith yn y cais yn ymwneud â’r ystafell fwyta, coetsiws, gweithdy’r gofaint a’r llaethdy, yn ogystal â’r safle ehangach o ran ffensio diogelwch a gosod cyflenwad trydan.

Roedd y cais yn cyeirio at y canlynol:

  • Cadw toeon amddiffynnol dros dro dros yr ystafell fwyta a’r coetsiws / gweithdy’r gofaint
  • Cadw / gosod ffensys diogelwch i sicrhau amddiffyniad i’r castell a’r tir
  • Cadw’r canllaw rheiliau newydd ar risiau’r cwt tu allan
  • Ail doi’r llaethdy
  • Gosod drysau newydd ar y coetsiws a gweithdy’r gofaint
  • Cael gwared ar ran fechan o lawr concrid modern yn y tŷ golchi
  • Darparu cabinet cyflenwi trydan newydd ar y dreif

Poblogaidd

Mae Scott Morrison, Prif Weinidog Awstralia, wedi dweud y byddai ailagor yn rhy fuan yn arwain at gynnydd mewn achosion Covid-19 yn y wlad.

Cyfres y llynedd oedd y fwyaf poblogaidd ers i’r rhaglen ddechrau, gyda’r bennod gyntaf yn denu 14.3m o wylwyr.

Bydd pwyllgor cynllunio’r Cyngor yn edrych ar gynigion i ymestyn y ffensys diogelwch ac i gadw toeau dros dro wedi i’r ffilmio ddod i ben.

Codwyd Castell Gwrych gan Lloyd Hesketh Bamford-Hesketh 1819.

Er mwyn ei godi cafodd plasdy o’r enw ‘Y Fron’ a oedd yno ers 1810 ei ddymchwel.

Pan fu farw Lloyd, daeth Robert Bamford-Hesketh a’i wraig Ellen Jones-Bateman yn berchnogion.

Bocsiwr

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, fe’i defnyddiwyd gan y Llywodraeth i lochesu 200 o aelodau Mudiad Seion yr Iddewon.

Cafodd ei ddefnyddio fel man hyfforddi y bocsiwr Randolph Turpin yn y 1950au cynnar.

Caewyd drysau Castell Gwrych i’r cyhoedd yn 1985, a dirywiodd adeiladwaith y castell.

Fe’i prynwyd yn 1989 gan Nick Tavaglione, dyn busnes Americanaidd, am £750,000.

Fe’i defnyddiwyd yn 1996 fel cefndir i’r ffilm ‘Prince Valiant’, gyda Edward Fox, Joanna Lumley a Katherine Heigl yn serenu.

Yna, dechreuodd bachgen ifanc lleol, Mark Baker, ymgyrchu dros gadwraeth y castell pan oedd o ond yn 12 oed.

Ffurfiodd ymddiriedolaeth i warchod ac adfer y castell, a gorfodwyd Bwrdeistref Sirol Conwy i roi ‘gorchymyn pryniant gorfodol’ ar y lle.

Gorfodwyd y perchennog Americanaidd i’w werthu ym Mawrth 2006 a phrynwyd y castell gan ‘City Services Ltd’ yn Ionawr 2007 am £850,000 a chafodd hanner miliwn ei wario ar y gwaith o’i adfer.