Mae o leiaf dau o bobl wedi marw ar ôl neidio o adeilad i osgoi heddlu’r awdurdodau ym Myanmar.

Roedd yr heddlu wedi bod yn erlid grŵp o bobl nos Fawrth, 10 Awst pan wnaethon nhw neidio o ben adeilad cyn cael eu dal.

Fe wnaeth y llywodraeth ddweud mewn datganiad bod wyth o bobl yn rhan o’r digwyddiad, gyda dau unigolyn wedi marw.

Protestiadau

Roedd un llygad dyst yn honni bod pump o bobl wedi dringo i’r to i osgoi’r heddlu cyn neidio i lawr i ffordd gefn gerllaw.

Mae’n debyg bod yr heddlu wedi cyrchu fflat y bobl ar ôl clywed bod arfau yno, ac fe gawson nhw o hyd i sawl dyfais ffrwydrol.

Ers i’r fyddin ddirymu llywodraeth Aung San Suu Kyi fis Chwefror, mae protestiadau ffyrnig wedi cael eu cynnal ar draws y wlad yn eu gwrthwynebu.