Mae dau ddyn a merch 16 oed wedi cael eu cyhuddo o lofruddio dyn 54 oed yng Nghaerdydd.

Bu farw Dr Gary Jenkins yr wythnos ddiwethaf, 16 diwrnod wedi ymosodiad arno ym Mharc Biwt yn y brifddinas.

Roedd Dr Jenkins, a oedd yn byw ym Mae Caerdydd, wedi bod mewn cyflwr difrifol yn yr ysbytyb ers y digwyddiad ar 20 Gorffennaf.

Pledio

Fe wnaeth Jason Edwards, 25 oed o ardal Glan-yr-afon, Caerdydd, Lee William Strickland, 36 oed a heb gyfeiriad parhaol, a merch 16 oed ymddangos gerbron Llys y Goron Casnewydd brynhawn heddiw (11 Awst).

Siaradodd y ddau ddyn i gadarnhau eu henwau yn unig, ac ymddangosodd y ferch, na ellir ei henwi am resymau cyfreithiol, drwy gyswllt fideo.

Bydd gwrandawiad pellach ar 15 Hydref, pan mae disgwyl i’r tri bledio i’r cyhuddiad.

Fe fydd achos llawn yn dechrau ar 17 Ionawr 2022, os bydd yna un.

Ymosodiad Parc Biwt: Trin yr achos fel ymchwiliad llofruddiaeth wedi marwolaeth dyn 54 oed

Bu farw Gary Jenkins o Fae Caerdydd yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd ddydd Iau, 5 Awst