Mae’r heddlu wedi cadarnhau fod dyn a ddioddefodd ymosodiad difrifol yng Nghaerdydd fis diwethaf wedi marw.

Roedd Gary Jenkins, 54 oed, o Fae Caerdydd wedi bod mewn cyflwr difrifol ers y digwyddiad ym Mharc Biwt yn oriau man y bore ar 20 Gorffennaf.

Bu farw yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd ddydd Iau, 5 Awst.

Bydd y mater yn cael ei drafodfel ymchwiliad llofruddiaeth nawr, meddai Heddlu De Cymru.

Mae tri o bobol wedi cael eu cyhuddo o geisio llofruddio, ac nid yw’r heddlu’n chwilio am neb arall.

Mae Jason Edwards, 25, Lee William Strickland, 36, y ddau o Gaerdydd, a merch 16 oed na ellir ei henwi am resymau cyfreithiol, yn cael eu cadw yn y ddalfa nes y bydden nhw’n ymddangos o flaen Llys y Goron Caerdydd nesaf ar 23 Awst.

Mewn teyrnged i Gary Jenkins, dywedodd ei deulu ei fod e’n “dad cariadus i ddwy ferch hyfryd”.

“Fe wnaeth e fyw ei fywyd yn hapus gyda chariad, cerddoriaeth, creadigrwydd ac ymroddiad i’w broffesiwn,” meddai’r teulu, sy’n gofyn am breifatrwydd.

Ymchwiliad llofruddiaeth

“Rydyn ni’n ymwybodol o farwolaeth drist Dr Gary Jenkins ac mae ein meddyliau gyda’i deulu a’i ffrindiau ar hyn o bryd,” meddai’r Ditectif Brif Arolygydd Stuart Wales o Heddlu De Cymru.

“Rydym ni mewn cysylltiad â Gwasanaeth Erlyn y Goron a Chrwner Ei Mawrhydi mewn perthynas â’i farwolaeth, a bydd y mater yn symud ymlaen fel ymchwiliad llofruddiaeth.

“Hoffwn ddiolch i’r cyhoedd am eu cymorth gwerthfawr wrth i ni barhau i ymchwilio i amgylchiadau’r digwyddiad hwn.

“Tra bod tri pherson wedi cael eu cyhuddo, rydyn ni dal i apelio am wybodaeth. Waeth pa mor fach y mae’r wybodaeth yn ymddangos, gallai fod yn hollbwysig i’n hymchwiliad.

“Yn benodol, hoffwn glywed gan unrhyw un a oedd ym Mharc Biwt yn ystod oriau mân y bore ddydd Mawrth, 20 Gorffennaf.

“Yn benodol, rydyn ni eisiau siarad gydag unrhyw un oedd wrth ymyl pont droed y Mileniwm, sy’n cysylltu Parc Biwt i Erddi Sophia, rhwng hanner nos a 1:20 y bore.”

Parc Bute Caerdydd

Merch, 16, wedi ymddangos yn y llys ar gyhuddiad o geisio llofruddio

Bydd y ferch yn aros mewn llety cadw ieuenctid nes y bydd hi’n ymddangos yn y llys eto fis nesaf