Mae’r diwydiant niwclear wedi ymateb i sylwadau Boris Johnson am ffynonellau egni.

Dywedodd Prif Weinidog y DU ei bod hi’n amser “trosglwyddo glo i hanes a newid i ffynonellau egni glan” wrth ymateb i adroddiad newydd yr IPCC ar effeithiau newid hinsawdd.

Roedd yr adroddiad hwnnw’n rhoi rhybudd cryf am sgil-effeithiau newid hinsawdd yn y blynyddoedd sydd i ddod.

Mae llefarydd ar ran Cymdeithas y Diwydiant Niwclear wedi nodi bod ei sylwadau’n gamarweiniol o ystyried y sefyllfa bresennol o ran cynhyrchu ynni.

Ffosil

“Mae’r Deyrnas Unedig yn parhau i ddibynnu’n fawr ar danwydd ffosil ac ar hyn o bryd ar rediad 45 diwrnod o losgi glo,” meddai.

“Dydyn ni heb drosglwyddo glo, a thanwydd ffosil, i hanes eto, oherwydd dydyn ni ddim wedi buddsoddi digon mewn ynni niwclear.

“Mae niwclear wedi chwarae rhan annatod wrth leihau defnydd Prydain o danwydd ffosil, gan gynnwys glo, ers degawdau, ond erbyn 2024, bydd y rhan fwyaf o’n gweithfeydd niwclear cyfredol wedi dod i ben,

“Bydd hyn yn dangos colled enfawr o bŵer cadarn a glân, ac yn rhoi ein targedau lleihau allyriadau mewn mwy o risg.

“Mae rhybudd yr IPCC, felly, yn tanlinellu’r brys llwyr o fuddsoddi mewn prosiectau ynni carbon isel newydd, gan gynnwys niwclear, i gyrraedd sero-net.”

‘Hwb cynnar’

Mae Boris Johnson eisoes wedi cael ei feirniadu am sylwadau yn ymwneud â glo’r wythnos diwethaf.

Dywedodd bryd hynny bod cau pyllau glo yn y 1980au wedi rhoi “hwb cynnar” yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd.

Roedd Mark Drakeford wedi galw ei sylwadau yn “wallgof a sarhaus” gan ddweud bod “dim modd mesur y difrod” a gafodd ei wneud i ardaloedd y pyllau glo.

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart, eto i ymateb i’r sylwadau hynny, er gwaethaf galwadau arno i wneud hynny.