Mae adroddiad newydd gan y Cenhedloedd Unedig yn pwysleisio pa mor wael yw’r sefyllfa newid hinsawdd, gan gynyddu’r pwysau ar lywodraethau.

Mae’r adroddiad gan Banel Trawslywodraethol Newid Hinsawdd (IPCC) y Cenhedloedd Unedig yn rhan o adolygiad o’r wybodaeth wyddonol sy’n bodoli ynghylch sut mae’r byd yn cynhesu oherwydd gweithgareddau dynol.

Dyma’r asesiad byd-eang cyntaf ers 2013, pan wnaeth gwyddonwyr ddarganfod fod cynhesu byd eang yn “ddigamsyniol”, a bod dylanwad dynol ar yr hinsawdd yn amlwg.

Dangosodd yr adroddiad hwnnw mai gweithgareddau dynol sy’n gyfrifol am y rhan fwyaf o’r cynhesu ers y 50au.

Mae’r neges yn yr adroddiad diweddaraf, a gafodd ei gyhoeddi fore heddiw (Awst 9), yn gryfach fyth.

Rhybuddion

Mae’r adroddiad yn cynnwys rhybuddion ynghylch pa mor sydyn allai’r tymheredd byd-eang godi 1.5C dros y lefelau cyn-ddiwydiannol – trothwy y mae gwledydd wedi addo trio peidio mynd drosto oherwydd y goblygiadau i bobol.

Gan ddefnyddio gwybodaeth o dros 14,000 papur gwyddonol, mae’r adolygiad yn cynnig y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch cynhesu byd-eang, sut mae pobol yn newid yr hinsawdd, a sut mae hynny’n cynyddu achosion o dywydd eithafol a chodi lefelau’r môr.

Bydd adroddiad arall yn crynhoi’r adolygiad yn cael ei gyhoeddi wedyn, ar ôl i wyddonwyr a chynrychiolwyr o 195 llywodraeth ei gymeradwyo.

Mae hynny’n golygu fod llywodraethau wedi arwyddo’r canfyddiadau, a bydd pwysau arnyn nhw i weithredu yn ystod trafodaethau Cop26 yng Nglasgow ym mis Tachwedd.

“Tagu ein planed”

Wrth ymateb i’r adroddiad, dywedodd ysgrifennydd cyffredinol y Cenhedloedd Unedig ei fod e’n “fater brys i ddynoliaeth”.

“Mae’r rhybuddion yn fyddarol, ac ni ellir gwadu’r dystiolaeth: mae allyriadau nwyon tŷ gwydr o losgi tanwydd ffosil a datgoedwigo yn tagu ein planed ac yn rhoi biliynau o bobol mewn perygl uniongyrchol,” meddai Antonio Guterres.

“Mae cynhesu byd-eang yn effeithio ar bob rhan o’r Ddaear, gyda nifer o’r newidiadau’n rhai na ellir eu gwyrdroi.

“Mae’r trothwy o 1.5C a gytunwyd arno’n rhyngwladol yn beryglus o agos.”

Fe wnaeth e annog gwledydd i gynyddu eu hymdrechion, a galw am stopio defnyddio gorsafoedd pŵer glo a thanwydd ffosil, gan symud at ynni adnewyddadwy.

Galwodd hefyd am arian i amddiffyn cymunedau sy’n agored i niwed, a dywedodd fod rhaid i wariant adfer wedi Covid-19 fod yn unol â thargedau hinsawdd.

“Gwybod beth sydd ei angen”

Dywedodd Boris Johnson ei bod hi’n amlwg y byddai’r degawd nesaf yn allweddol er mwyn sicrhau dyfodol y blaned.

“Rydyn ni’n gwybod beth sydd yn rhaid ei wneud i gyfyngu cynhesu byd-eang – troi ein cefnau ar lo a symud at ffynonellau ynni glan, amddiffyn natur a chyflenwi arian hinsawdd i wledydd sydd ar y rheng flaen.”

Mae ymgyrchwyr wedi annog Llywodraeth y Deyrnas Unedig i wneud mwy i leihau eu hallyriadau, gyda Jake Woodier o’r Climate Coalition, sy’n cynnwys grwpiau megis yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a’r RSPB, yn dweud fod “newid hinsawdd yma yn barod, ac wedi haf o dywydd dinistriol a gwyllt, mae’r cyhoedd eisiau i Boris Johnson weithredu’n benderfynol”.

“Rydyn ni’n gwybod beth sydd ei angen i sicrhau dyfodol saffach: o ddweud na wrth lygru tanwydd ffosil fel maes olew Cambo, i adfer y byd naturiol, gwarchod coedwigoedd a chyfarfod addewidion ariannol i gefnogi pobol sydd ar y rheng flaen yn yr argyfwng hinsawdd.

“Nawr, mae hi’n amser gwneud hynny.”

‘Dim digon yn cael ei wneud’

Dyma’r chweched adroddiad i’r IPCC ei gynnal ers i’r panel gael ei ffurfio yn 1988, a bydd datrysiadau ar gyfer mynd i’r afael â’r argyfwng yn cael eu cyhoeddi yn 2022.

Daw’r adroddiad ar ôl i dymheredd y byd godi i 1.2C uwchben lefel cyn-ddiwydiannol ac wrth i’r byd weld mwy o dywydd eithafol – o dywydd poeth a thannau gwyllt i law trwm a llifogydd.

Er gwaethaf hynny, dyw llywodraethau ddim yn gwneud digon i fynd i’r afael ag allyriadau nwyon tŷ gwydr megis drwy losgi tanwydd ffosil ar gyfer gwresogi, trydan, a thrafnidiaeth.

Mae pennaeth hinsawdd y Cenhedloedd Unedig, Patricia Espinosa, wedi rhybuddio nad yw nifer o wledydd wedi cyflwyno cynlluniau newydd ar gyfer mynd i’r afael â’u hallyriadau – sef rhan allweddol o’r hyn y mae’n rhaid iddyn nhw wneud cyn uwch-gynhadledd Cop26.

Dywedodd hefyd nad yw’r rhai sydd wedi cyflwyno cynllun yn gwneud digon.

Yn fyd-eang, dydi’r camau sydd wedi eu haddo ddim yn mynd yn ddigon pell i beidio cynhesu i 2C uwchben lefelau cyn-ddiwydiannol, heb sôn am 1.5C.

Byddai pasio’r trothwy 1.5C yn golygu mwy o dywydd eithafol, lefelau’r môr yn codi’n uwch, a difrod i gnydau, bywyd gwyllt ac iechyd, meddai adroddiad arbennig gan yr IPCC yn 2018.

Er mwyn peidio â chodi’r tymheredd dros 1.5 gradd, byddai’n rhaid torri allyriadau carbon 45% erbyn 2030, gan gyrraedd sero erbyn 2050, gyda newidiadau sylweddol i drafnidiaeth, sut rydyn ni’n cynhesu a phweru ein cartrefi, diwydiant, ac amaethyddiaeth.

“Peryglus o agos”

“Rydych chi’n gweld yn ddyddiol yr hyn sy’n digwydd ar draws y byd. Llynedd oedd y flwyddyn gynhesaf ers i gofnodion ddechrau, y degawd diwethaf oedd y degawd cynhesaf ers i gofnodion ddechrau,” meddai Llywydd Cop25, Alok Sharma, wrth siarad â’r Guardian.

Rhybuddiodd fod y byd yn dod yn “beryglus o agos” o fod yn brin o amser i dorri allyriadau nwyon tŷ gwydr.

“Dw i’n meddwl ein bod ni’n dod yn beryglus o agos i’r adeg pan allwn ni fod yn brin o amser.

“Mae pob cynnydd o ffracsiwn o radd yn gwneud gwahaniaeth a dyna pam bod rhaid i wledydd weithredu nawr.

“Rydyn ni’n gweld y goblygiadau dros y byd – yn y Deyrnas Unedig neu’r llifogydd ofnadwy rydyn ni wedi’u gweld dros Ewrop a China, neu goedwigoedd ar dân, a’r tymheredd yn cyrraedd record yng Ngogledd America.

“Bob dydd byddwch chi’n gweld record newydd un ffordd neu’r llall dros y byd.”

Mae Groeg yn dioddef y gwres gwaethaf ers 30 mlynedd gyda’r tymheredd yn codi dros 40 gradd mewn rhai ardaloedd a mwy o dannau’n debygol wrth i’r rhagolygon ddweud y bydd gwyntoedd cryfach a gwres tanbaid.

Mae swyddogion yng Ngroeg ac Ewrop wedi beio newid hinsawdd am y nifer uchel o dannau sydd wedi bod yn llosgi dros dde Ewrop yn y dyddiau diwethaf, o’r Eidal i Ynysoedd y Balkans, Groeg a Thwrci.