Mae gormod o bobl ifanc yn mynd i’r brifysgol, yn ôl pennaeth elusen addysg, ar drothwy cyhoeddi canlyniadau arholiadau Safon Uwch.
Fe fydd degau ar filoedd o fyfyrwyr yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn derbyn eu canlyniadau Lefel A ddydd Mawrth ar ôl i’r arholiadau gael eu canslo am yr ail flwyddyn yn olynol yn sgil y pandemig.
Tra bod nifer yn edrych ymlaen at fynd i’r brifysgol, mae sylfaenydd a chadeirydd yr Ymddiriedolaeth Sutton wedi codi pryderon am ddyledion graddedigion.
Dywedodd Syr Peter Lampl wrth The Daily Telegraph: “Dw i’n credu bod gormod o bobl ifanc yn mynd i’r brifysgol. Mae gormod o raddedigion yn gorffen gyda llawer o ddyled, mae’r dyledion yn aruthrol ac, mewn nifer o achosion, does ganddyn nhw ddim y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer y farchnad waith.”
Ychwanegodd: “Dyw’r myfyrwyr ddim yn mynd i allu talu’r ddyled yn ôl ac mae hynny’n broblem fawr. Pwy sy’n mynd i dalu?”
Yn ôl yr adroddiad yn The Daily Telegraph, dywedodd Syr Peter Lampl byddai’n well i nifer o fyfyrwyr wneud gradd prentisiaeth “lle dych chi’n ennill arian wrth i chi ddysgu, dy’ch chi’n gorffen heb ddyled a gyda sgiliau mae’r farchnad waith eisiau.”
Roedd Peter Lampl wedi sefydlu’r Ymddiriedolaeth Sutton yn 1997 er mwyn gwella symudedd cymdeithasol yn y Deyrnas Unedig, ac wedi cyfrannu mwy na £50m i’r ymddiriedolaeth, yn ôl y wefan.