Mae diffoddwyr tân a thrigolion yn parhau i frwydro tanau gwyllt anferth sy’n rhuo drwy rannau o Wlad Groeg am y seithfed diwrnod yn olynol.

Mae’r tanau ar ynys Evia, ail ynys fwyaf Gwlad Groeg, wedi dinistrio rhannau anferth o goedwigoedd yn ogystal â thai a busnesau, ac mae miloedd wedi gorfod ffoi.

Fe wnaeth y mwg a’r llwch droi’r awyr yn oren wrth i’r tân ledaenu dros ogledd yr ynys, sy’n llawn coedwigoedd a childraethau a bron yn cyffwrdd â thir mawr Groeg.

Y tân yn Evia yw’r gwaethaf ymysg dwsinau o danau sydd wedi bod yn llosgi yng Ngwlad Groeg dros yr wythnos ddiwethaf, ar ôl i dymheredd y wlad gyrraedd 45C am ddyddiau.

Mae tanau mawr eraill wedi bod yn llosgi drwy goedwigoedd a thir amaethyddol ardal Peloponnesse, yn ne Groeg, tra bod tân arall wedi llosgi tai, busnesau a choedwigoedd ar gyrion gogleddol Athen.

“Dim brigâd dân, dim cerbydau”

Mae diffoddwyr tân o ugain o wledydd eraill, gan gynnwys rhai o Gymru, wedi mynd i helpu i ddiffodd y tanau.

Er hynny, mae rhai trigolion ac awdurdodau lleol wedi cwyno ynghylch y diffyg o ddiffoddwyr tân, ac wedi defnyddio rhwydweithiau teledu’r wlad i apelio am help, yn enwedig drwy ollwng dŵr o awyrennau.

“Doedd dim brigâd dân, doedd dim cerbydau, dim byd,” meddai David Angelou, a oedd ym mhentref glan môr Pefki ar ynys Evia nes iddo adael yr ynys ddoe (8 Awst).

“Roeddech chi’n gallu teimlo’r gwres anhygoel, roedd yna lot o fwg o gwmpas. Roeddech chi’n gallu gweld yr haul, pêl goch, ac yna, dim byd arall o gwmpas.”

Fe wnaeth diffoddwyr tân lwyddo i achub rhan fwyaf o bentref Pefki dros nos neithiwr, a chafodd cwch a oedd wedi’i anfon yno i achub pobol, ei throi’n llety dros dro i breswylwyr nad oedd yn gallu dianc i brif harbwr Evia, neu i unrhyw un oedd yn dymuno aros yn agos i’w gartref er mwyn gallu dychwelyd pan fyddai’n ddiogel gwneud hynny.

Dywedodd pennaeth gwarchodaeth sifil Gwlad Groeg, Nikos Hardalias, fod diffoddwyr tân yn gwneud popeth o fewn eu gallu.

Ddoe, fe wnaeth awyren fach blymio i’r tir ar ynys Zakinthos wrth geisio diffodd tân yno.

Twrci

Mae tanau anferth wedi bod yn rhuo yn Nhwrci ers dros ddeng niwrnod hefyd, lle mae diffoddwyr tân yn dal i drio diffodd tanau mewn pum lleoliad yn nhalaith Mugla.

“Mae’r sefyllfa yn gwella,” meddai gweinidog amaeth a choedwigaeth Twrci ddoe.

“Mae hi’n rhy gynnar i ddweud a yw’r tanau dan reolaeth, ond rydyn ni’n cyrraedd y pwynt hwnnw.”