Mae’n debygol y bydd canlyniadau TGAU a Lefel A yn uwch eleni nag mewn blynyddoedd arferol, yn ôl Prif Weithredwr Cymwysterau Cymru.
Wrth edrych ymlaen at y canlyniadau fory a dydd Iau (10 a 12 Awst), dywedodd Philip Blaker y byddai’n syndod pe bai canlyniadau cenedlaethol yr haf hwn yn edrych yr un fath ag mewn blynyddoedd cyn y pandemig.
Gan fod y dull o arholi’n wahanol i’r arfer, mae Cymwysterau Cymru yn disgwyl i ganlyniadau fod yn wahanol.
Yr unig ddull ymarferol o ddyfarnu llawer o gymwysterau oedd i ysgolion a cholegau bennu’r graddau gan ddefnyddio eu barn broffesiynol wedi’i ategu gan dystiolaeth asesu.
Esboniodd Philip Blaker y bydd mwy o amrywiaeth mewn asesu ar draws ysgolion a cholegau eleni, gan fod athrawon yn mabwysiadu dull mwy hyblyg a chyfannol sy’n adlewyrchu’r heriau i ddysgwyr.
Dywedodd Cymwysterau Cymru, fel y corff sy’n rheoleiddio cymwysterau, eu bod nhw’n meddwl am yr hyn fydd hyn yn ei olygu i’r system gymwysterau yn 2022 – ac ymhellach ymlaen wedyn wrth ddiwygio’r cymwysterau ar gyfer y cwricwlwm newydd.
Bydden nhw’n cadarnhau beth fydd y drefn ar gyfer y flwyddyn nesaf yn gynnar yn nhymor yr hydref, unwaith y bydd cyfle i ystyried sut mae dulliau gwahanol wedi gweithio dros y Deyrnas Unedig.
“Dull tecaf”
Y peth pwysicaf wrth ddewis y dull o asesu dysgwyr, oedd sicrhau tegwch, meddai Philip Blaker.
“Y flaenoriaeth oedd dod o hyd i’r dull tecaf i ddysgwyr o dan yr amgylchiadau, un a oedd yn cefnogi eu lles a’u dilyniant yn y cyfnod eithriadol hwn,” meddai Philip Blaker.
“Roedd hyn yn golygu bod angen i’r trefniadau amgen fod â’r hyblygrwydd mwyaf posibl, fel y gallai ysgolion a cholegau bennu graddau gan ystyried eu hamgylchiadau lleol eu hunain a’r dystiolaeth asesu oedd ar gael iddynt.
“O ystyried yr amgylchiadau eithriadol a’r gwahanol drefniadau asesu, byddai’n syndod pe bai canlyniadau cenedlaethol yr haf hwn yn edrych yr un fath ag mewn blynyddoedd cyn y pandemig.
“Mae hyn yn gwbl wahanol i’r dull arferol o asesiadau wedi’u gosod yn allanol ac, ar y cyfan, asesiadau wedi’u marcio yn allanol lle mae’r marciau a gyflawnir yn arwain at y radd a ddyfernir. Gan fod y dull yn wahanol, rydym yn disgwyl i ganlyniadau fod yn wahanol.
“Eleni, bydd llawer mwy o amrywiaeth mewn asesu ar draws ysgolion a cholegau, gan fod athrawon yn mabwysiadu dull mwy hyblyg a chyfannol sy’n adlewyrchu’r heriau eithriadol y mae dysgwyr wedi’u hwynebu.
“Felly, gallai fod gwahaniaethau mewn canlyniadau cenedlaethol eleni, gan fod popeth yn wahanol. Mae addysgu, dysgu ac asesiadau wedi newid, a bydd yr asesiadau’n amrywio mwy ar lefel leol.”
“Canlyniadau uwch”
“Efallai y bydd rhai’n disgwyl i ganlyniadau fod yn is oherwydd yr amharu a fu ar addysg oherwydd Covid-19, a bod dysgwyr wedi colli amser addysgu wyneb yn wyneb,” meddai Philip Blaker.
“Fodd bynnag, rydym ni’n credu ei bod yn fwy tebygol y bydd y canlyniadau’n uwch nag mewn blynyddoedd arferol, ac o bosibl yn sylweddol felly, o ystyried y dull gwahanol.
“Er enghraifft, dywedwyd wrthym fod llawer o ganolfannau wedi defnyddio papurau blaenorol gyda chynlluniau marcio hysbys, yr oedd dysgwyr yn gallu paratoi ar eu cyfer, a gwnaeth llawer o ddysgwyr yn dda iawn yn yr asesiadau hyn. Mae’n bosibl bod cyfrif am hyn mewn barn broffesiynol ac academaidd wedi bod yn heriol ac efallai ei fod wedi’i wneud mewn ffyrdd amrywiol.
“Gall canlyniadau uwch hefyd fod o ganlyniad i’r ffordd y mae ysgolion a cholegau wedi rheoli’r dasg anodd o wneud penderfyniadau graddio cyfannol, a’u hawydd i fod yn deg â dysgwyr.
“Gallai hyn arwain at ganlyniadau uwch nag mewn blynyddoedd cyn pandemig (er, i lawer, bydd y graddau’n debyg i’r rhai y byddent wedi’u cyflawni pe bai’r arholiadau wedi’u cynnal).
“Mae hyn hefyd yn debygol o fod wedi bod yn ffactor yn y canlyniadau uwch y llynedd ar ôl i’r graddau asesu canolfannau gael eu dyfarnu.”
“Dehongli’n ofalus”
Bydd rhaid dehongli’n ofalus er mwyn osgoi dod i gasgliadau rhy syml, os bydd y canlyniadau’n uwch eleni, ychwanegodd.
“Er enghraifft, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynllun adnewyddu a diwygio yn ddiweddar, lle byddant yn buddsoddi cyllid mewn ysgolion a cholegau i helpu gydag effeithiau’r pandemig,” meddai Philip Blaker.
“Gallai rhai ddehongli canlyniadau uwch fel tystiolaeth nad oes angen y buddsoddiad hwn.
“Mewn gwirionedd, mae graddau uwch yn llawer mwy tebygol o fod o ganlyniad i’r holl newidiadau sydd wedi’u gwneud mewn blwyddyn sydd wedi bod yn flwyddyn wahanol iawn.”