Mae Heddlu’r Gogledd wedi cadarnhau bod dyn wedi marw ar draeth ym Mhorth Neigwl ger Pwllheli yng Ngwynedd dros y penwythnos.

Roedd y gwasanaethau brys wedi eu galw tua 2:45yh ar ôl adroddiadau bod tri o bobl mewn trafferthion yn y dŵr, gyda thimau bad achub wedi eu galw i chwilio amdano.

Bu meddygon yn ceisio am dros awr i adfywio’r dyn ond bu farw yn y fan a’r lle.

Nid yw’r heddlu eto wedi cadarnhau enw’r dyn, ond mae swyddogion arbenigol yn rhoi cefnogaeth i’r teulu ar hyn o bryd.

“Mae dyn yn anffodus wedi marw ar ôl mynd i drafferthion yn y dŵr ym Mhorth Neigwl ger Pwllheli ddydd Gwener, 6 Awst,” meddai llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru.

“Cafodd yr heddlu eu galw am 2:45yh yn dilyn adroddiadau bod dyn wedi ei dynnu o’r dŵr.

“Fe fynychodd y gwasanaethau brys, yn cynnwys Gwylwyr y Glannau a’r Gwasanaeth Ambiwlans Awyr, ond yn anffodus, er gwaethaf ymdrechion gorau, bu farw’r dyn yn y fan a’r lle.

“Mae swyddogion bellach yn rhoi cefnogaeth i deulu’r dyn ac mae ein cydymdeimladau dwysaf â nhw ar yr amser anodd hwn.”