Bydd Cymru, ynghyd â’r gwledydd datganoledig eraill, yn rhoi benthyg 20 miliwn o brofion llif unffordd Covid-19 i Lywodraeth y Deyrnas Unedig i gefnogi’r ymateb â’r galw yn Lloegr.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio’n galed i sicrhau bod adnoddau ar gael i Gymru ymateb i’r pandemig, meddai Eluned Morgan, Gweinidog Iechyd Cymru.

Weithiau, mae hynny’n cynnwys gweithio gyda gwledydd eraill y Deyrnas Unedig er mwyn darparu mwy o hyblygrwydd ac arbedion pan fo angen, ychwanegodd.

Fel rhan o’r trefniadau hynny, mae Cymru wedi darparu cydgymorth i gefnogi’r ymateb yn y gwledydd eraill ar sawl achlysur yn ystod y pandemig.

O ran offer diogelwch personol, mae Cymru wedi rhoi 13.8 miliwn o eitemau i wledydd eraill y Deyrnas Unedig ac wedi derbyn 1.4 miliwn o eitemau ar gais gan yr Alban a Gogledd Iwerddon ers dechrau mis Ebrill 2020.

Mae pŵer prynu gwasanaethau iechyd Cymru wedi golygu bod y wlad wedi gallu darparu gwerth £37.5 miliwn o eitemau offer diogelwch personol i wledydd eraill y Deyrnas Unedig, meddai Eluned Morgan.

Yn ei thro, mae Cymru wedi derbyn tua 3.3 miliwn o eitemau gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ailgyflenwi stoc.

“Angen ymteb byd-eang”

“Mae Llywodraeth Cymru yn falch o allu cefnogi’r cais am gymorth ychwanegol yn ystod awr gyfyng Lloegr,” meddai Eluned Morgan mewn datganiad.

“Mae angen ymateb byd-eang i Covid-19 ac mae Cymru wedi chwarae ei rhan i gefnogi gwledydd eraill, gan gynnwys Lloegr ond hefyd y tu hwnt, a bydd yn parhau i wneud hynny.

“Mae hyn wedi cynnwys darparu cyflenwadau meddygol, gan gynnwys peiriannau anadlu, i gefnogi’r ymateb brys rhyngwladol i bandemig y coronafeirws yn India.”