Mae ymchwiliad wedi ei agor i weithredoedd dyn busnes oedd yng ngofal cynlluniau ar gyfer parc antur yn Ne Cymru ymhlith mentrau busnes eraill.

Bydd y Swyddfa Dwyll Ddifrifol (SFO) yn ymchwilio i fuddsoddiadau oedd yn cael eu cynnig gan Gavin Woodhouse mewn cartrefi gofal a gwestai  rhwng 2013 a 2019.

Mae disgwyl i’r rheiny sydd wedi buddsoddi yn y cynlluniau gyflwyno manylion i’r Swyddfa Dwyll Ddifrifol erbyn mis Medi.

Roedd Gavin Woodhouse wedi derbyn dros £80 miliwn gan fuddsoddwyr, ond yn dilyn ymchwiliad gan Newyddion ITV a’r Guardian, roedd bylchau gwerth miliynau o bunnoedd yn ymddangos yn y cynlluniau.

Fe welon nhw bod £16 miliwn wedi ei godi ar gyfer pedwar cartref gofal oedd ddim yn weithredol eto.

Roedd Gavin Woodhouse hefyd wedi denu buddsoddiadau i ariannu parc antur gwerth £200 miliwn yng Nghwm Afan, ond mae’r cynlluniau hynny bellach yn ansicr.

Fe gafodd y cynlluniau hynny sêl bendith Cyngor Castell-nedd Port Talbot, yn ogystal â’r anturiaethwr Bear Grylls.

Mewn datganiad dywedodd yr SFO bydd yr ymchwiliad yn helpu i sefydlu’r ffeithiau tu ôl i’r gweithredoedd hyn.

“Bydd y wybodaeth yn helpu ni sefydlu amgylchiadau’r buddsoddiadau a gynigwyd, i adnabod a dilyn gwybodaeth newydd, ac i symud yr ymchwiliad ymlaen mor gyflym â phosibl,” medden nhw.