Cafodd ddau berson anafiadau difrifol ar ôl disgyn mewn i hen siafft mwyngloddio.
Fe gafodd tîmau achub mynydd, yn ogystal ag arbenigwyr ogofau eu galw i’r digwyddiad ym Mhorth Ysgo, Pen Llyn, brynhawn ddoe Sul (8 Awst).
Cafodd tîmau Gwylwyr y Glannau Aberdaron, Abersoch a Chricieth hefyd eu galw i’r digwyddiad.
Roedd un o’r ddau wedi gorfod cael ei gludo mewn hofrennydd i’r ysbyty wedi iddyn nhw gael eu canfod.
Mewn post ar eu tudalen Facebook, dywedodd Tîm Achub Mynydd Aberglaslyn: “Cawsom ein galw ar gais yr Asiantaeth Forwrol a Gwylwyr y Glannau’r prynhawn yma i gynorthwyo yn lleoliad y digwyddiad ym Mhorth Ysgo, ar Benrhyn Llyn,.
“Fe adroddwyd bod dau anafedig wedi cwympo i lawr hen fwynglawdd ac wedi mynd yn sownd.
“Fe adroddwyd bod un ohonyn nhw wedi cael anafiadau difrifol.
“Hefyd wedi eu galw i’r digwyddiad oedd Tîm Achub Gwylwyr y Glannau Aberdaron, Tîm Achub Gwylwyr y Glannau Abersoch, Gwylwyr y Glannau Criccieth, Sefydliad Achub Ogof Gogledd Cymru ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.
“Fe wnaethom ni ddefnyddio dau gerbyd tîm yn y lleoliad i gefnogi’r ymdrech achub, a chodwyd aelodau ychwanegol ac arbenigwyr achub ogofâu gan hofrennydd Achub 936 a’u hedfan yn uniongyrchol i’r olygfa.
“Mewn ymdrech achub ar y cyd, fe symudwyd y ddau unigolyn o’r siafft gydag un ohonyn nhw’n cael ei gludo i Ysbyty Gwynedd gan y Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys – EMRTS Wales (Ambiwlans Awyr).
“Mae ein meddyliau gyda’r ddau ohonyn nhw ac fe ddymunwn wellhad buan.”