Mae’r rhan fwyaf o gyfyngiadau coronafeirws wedi cael eu codi yn yr Alban ar ôl i’w wlad symud i rybudd lefel 0 am hanner nos (Awst 9).
Nid oes rhaid ymbellhau’n gymdeithasol, ar wahân i leoliadau gofal iechyd, ac mae clybiau nos a lleoliadau eraill wedi cael ail-agor.
Mae rhai mesurau, fel gwisgo masgiau mewn llefydd cyhoeddus dan do ac ar drafnidiaeth gyhoeddus, yn parhau.
Dywedodd y Prif Weinidog Nicola Sturgeon bod y wlad yn symud i Lefel 0, y lefel isaf o’r pum haen o gyfyngiadau, oherwydd “gostyngiad mewn achosion” a “llwyddiant y rhaglen frechu”.
O dan y rheolau newydd, fe fydd oedolion sydd wedi cael dau frechlyn a phlant yn gallu osgoi hunan-ynysu os ydyn nhw’n dod i gysylltiad agos a rhywun sydd a’r coronafeirws cyhyd a’u bod nhw ddim yn dioddef symptomau ac yn cael prawf PCR negyddol.
Fe fydd yn rhaid i ddisgyblion ysgol ac athrawon barhau i wisgo mygydau am hyd at chwe wythnos ar ôl i ysgolion ail-agor, meddai’r Llywodraeth.
Bydd yn rhaid i bobl wneud cais gan yr awdurdodau lleol a’r Llywodraeth am ganiatâd ar gyfer digwyddiadau tu allan o fwy na 5,000 o bobl a digwyddiadau dan do o fwy na 2,000.
Wrth gyhoeddi codi’r cyfyngiadau, dywedodd Nicola Sturgeon mai dydd Llun (Awst 9) “yw, efallai, y dyddiad mwyaf allweddol hyd yn hyn” yn ystod y pandemig.
Serch hynny mae hi wedi annog pobl yr Alban i barhau i fod yn wyliadwrus gan ddweud nad yw’r pandemig ar ben.